Blwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Goresgyn Tlodi 2010 – i ba raddau y mae Cymru yn ymgysylltu â’r ymgyrch?

Cyhoeddwyd 27/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Blwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Goresgyn Tlodi 2010 – i ba raddau y mae Cymru yn ymgysylltu â’r ymgyrch?

27 Mai 2010

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (27 Mai), mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu sicrhau bod Cymru yn manteisio i’r eithaf ar yr ymgyrch Ewropeaidd i godi ymwybyddiaeth o dlodi ac allgáu cymdeithasol,

Bob blwyddyn, mae’r UE yn dewis testun penodol i dynnu sylw ato mewn ymgyrch - sef Blwyddyn Ewropeaidd. Blwyddyn Creadigrwydd ac Arloesedd oedd 2009, Blwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Goresgyn Tlodi yw 2010 a Blwyddyn Ewropeaidd Gwirfoddoli fydd 2011.

URL Senedd.tv: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_900001_26_05_2010&t=0

Nod y rhain yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd at broblem benodol a thynnu sylw llywodraethau cenedlaethol atynt.

Eleni, dewiswyd canolbwyntio ar dlodi ac allgáu cymdeithasol, a phenderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad i weld pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn cyfrannu mor effeithiol â phosibl at y Flwyddyn.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys pobl o bob oed, a rhanddeiliaid, yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau i hyrwyddo’r ymgyrch, er mwyn sicrhau bod yr agenda’n cael ei lywio gan bobl sydd â phrofiad o dlodi.

Mae’r Pwyllgor hefyd am sicrhau bod y gweithgareddau yng Nghymru yn gadael gwaddol ar eu holau er mwyn i Gymru fod yn wlad y bydd rhanbarthau eraill yr UE am ei hefelychu wrth ymgyrchu dros faterion eraill yn ystod Blynyddoedd Ewropeaidd yn y dyfodol.

Dywedodd Rhodri Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’n rhaid i’r Flwyddyn Ewropeaidd arwain at agwedd fwy unedig gan y cyhoedd, gwleidyddion a threfnwyr wrth ddatblygu agenda i oresgyn allgáu cymdeithasol.

“Un o’n prif flaenoriaethau yng Nghymru yw mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol, ac mae Blwyddyn Ewropeaidd sy’n ymdrin â’r testun hwn yn gyfle gwych i bwyso a mesur ymyriadau i weld pa rai sy’n gweithio’n dda ac i rannu arfer da yng Nghymru a ledled Ewrop.

“Y mae hefyd yn ein hatgoffa bod yn rhaid gwrando nid yn unig ar leisiau’r arbenigwyr proffesiynol ond hefyd ar leisiau’r rheini sy’n byw mewn tlodi gwirioneddol a rhaid cynnwys y bobl hyn yn y gwaith o lywio cyfeiriad a gweithgareddau’r Flwyddyn Ewropeaidd.

“Mae’r ymchwiliad hwn hefyd wedi edrych ar y broses gyffredinol o hyrwyddo Blynyddoedd Ewropeaidd yng Nghymru. Maent yn gyfrwng defnyddiol i amlygu problemau sy’n bwysig i bobl Ewrop, a dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfle y maent yn ei gynnig i fyfyrio a thrafod ac i drefnu gweithgareddau.”