Brenin Lesotho yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 13/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Brenin Lesotho yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Brenin Lesotho yn arwyddo'r llyfr ymwelwyr yn y Senedd, gyda Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.

Bu Ei Fawrhydi’r Brenin Letsie III o Lesotho yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd ddydd Iau, 13 Tachwedd. Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Ei Fawrhydi ag Aelodau’r Cynulliad, a chlywodd sut y mae cysylltiadau rhyng-seneddol yn prysur ddatblygu rhwng Cymru a Lesotho. Roedd ymweliad Brenin Lesotho â’r Senedd yn un o nifer o ddigwyddiadau y bu Ei Fawrhydi yn rhan ohonynt yn ystod ei daith pedwar diwrnod o amgylch Cymru.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC:

“Roedd yn anrhydedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru groesawu Ei Fawrhydi’r Brenin Letsie III i’r Senedd, a hynny ar ei ymweliad cyntaf hanesyddol â Chymru. Roedd yr ymweliad yn gyfle delfrydol i gryfhau’r berthynas sydd wedi’i sefydlu ers tro rhwng Cymru a Lesotho, nid yn unig dros y naw mlynedd ddiwethaf ers sefydlu’r Cynulliad, ond yn sgil holl waith gwych Dolen Cymru dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf."

Yn ystod ei ymweliad, cynhaliodd Ei Fawrhydi gyfarfod â John Griffiths AC, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, er mwyn trafod y cysylltiadau rhwng Lesotho ac ysgolion yng Nghymru. Ymunodd athrawon a disgyblion sydd wedi ymweld â Lesotho â’r Gweinidog ar gyfer y cyfarfod.

Wedi’r cyfarfod, cyfnewidiodd Ei Fawrhydi roddion, ac aethpwyd ag ef ar daith o amgylch Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bu hefyd yn gwylio un o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc.

Mike German AC a Brenin Lesotho yn oriel gyhoeddus y Siambr