Buddsoddwch yn awr i roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant mewn gofal – meddai adroddiad pwyllgor

Cyhoeddwyd 21/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Buddsoddwch yn awr i roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant mewn gofal – meddai adroddiad pwyllgor

21 Mai 2010

Rhaid gwneud rhagor i sicrhau bod plant mewn gofal yn cael y cyfle gorau mewn bywyd yn ôl adroddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi cwblhau ei ymchwiliad deng mis i’r system o roi plant mewn gofal a daeth i’r casgliad na ddylai ystyriaethau ariannol rwystro plant sy’n agored i niwed rhag cael y gofal gorau bosibl ac y dylai awdurdodau lleol sylweddoli bod canlyniadau da yn yr hirdymor yn well nag arbedion tymor byr.

Dywedodd Helen Mary Jones, Cadeirydd y Pwyllgor: “Un o’r negeseuon a glywsom yn gyson yn ystod yr ymchwiliad hwn oedd y gall lleoliadau i blant mewn gofal newid bywydau er gwell, gallant helpu plant a phobl ifanc i oresgyn anawsterau’r gorffennol a dod â’u doniau cudd i’r amlwg.”

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bersonol gan blant a phobl ifanc a oedd â phrofiad o’r system lleoli plant. Rhoddodd llawer ohonynt deyrnged i ofalwyr maeth a oedd wedi gofalu amdanynt, ond roedd y ffaith bod rhai wedi symud o le i le cynifer o weithiau’n peri pryder. Roedd un plentyn wedi symud 11 gwaith mewn saith mlynedd.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae hyn yn peri pryder arbennig i’r Pwyllgor. Clywsom fod nifer y plant sy’n cael eu symud o un lleoliad i’r llall dair gwaith neu ragor y flwyddyn wedi gostwng pedwar y cant ers 2006.

“Er bod hyn yn dangos bod y system yn gwella, nid yw’r Pwyllgor yn fodlon ar y sefyllfa a rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau lles plant i wella’r ffigur honno.”

Gofynnwyd hefyd sut y gellid cynnwys gofalwyr maeth mewn penderfyniadau’n ymwneud â’r plant yn eu gofal. Teimlwyd bod ganddynt wybodaeth werthfawr am y plant oherwydd eu bod yn gweithio ar lefel mor bersonol gyda nhw, ond nid oeddynt yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau gan nad ystyriwyd eu bod wedi cael hyfforddiant proffesiynol.

Roedd Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, y Rhwydwaith Maethu a Gweithredu dros Blant ymhlith y sefydliadau a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad.

Daeth pawb i’r casgliad fod digon o enghreifftiau o arfer da yng Nghymru ond bod pryderon hefyd am y ffaith bod prosesau a gweithdrefnau weithiau’n cael eu rhoi o flaen buddiannau’r plentyn.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r plant hyn yn agored i niwed a rhaid iddynt fod yn ganolog i unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â’u dyfodol. Mae anghenion pob un plentyn yn wahanol.

“Drwy ddefnyddio’r un broses anhyblyg i geisio diwallu anghenion pob un plentyn unigol, rydym mewn perygl o wneud mwy o ddrwg nag o les.

“Ond mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn darged hawdd ar hyn o bryd. Byddwn yn darllen penawdau newyddion sy’n sôn eu camgymeriadau’n llawer rhy aml ond yn clywed dim am y mwyafrif helaeth o achosion llwyddiannus. .

Mae angen cefnogaeth arnynt hwythau hefyd ac mae’n hargymhellion yn cydnabod hynny.”

At ei gilydd, mae 33 o argymhellion yn yr adroddiad sy’n cwmpasu nifer o feysydd yr ymchwiliwyd iddynt, o’r broses gychwynnol o leoli plentyn, i rannu gwybodaeth a chynorthwyo plant, pobl ifanc, gofalwyr maeth a gweithwyr cymorth.