Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Iechyd

Cyhoeddwyd 02/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/05/2019

Bydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar weithredoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sgil pryderon ynghylch ansawdd ei wasanaethau mamolaeth.

Mae gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd bellach o dan fesurau arbennig ar ôl i fethiannau gael eu canfod a allai fod wedi cyfrannu at farwolaeth nifer o fabanod yn y blynyddoedd diwethaf.

Nodwyd digwyddiadau difrifol eraill hefyd.

Bydd y Pwyllgor yn holi cynrychiolwyr BIP Cwm Taf Morgannwg ynghylch y methiannau, safon y gwasanaethau mamolaeth a'r hyn sy'n cael ei wneud i'w gwella.

Dywed Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, “mae'r adroddiadau diweddar ynghylch Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn hynod ofidus”.

“Mae teuluoedd wedi wynebu torcalon yn sgil marwolaethau babanod newydd-anedig tra bod llawer o bobl eraill yn gorfod ymdopi â chanlyniadau bwrdd iechyd a gwasanaethau sydd o dan bwysau eithafol.

“Rydym eisiau gwybod beth aeth o'i le, beth sy'n cael ei wneud i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt a sut mae uwch reolwyr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.”

Fe fydd y pwyllgor yn cynnal ei sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg Dydd Iau, 23 Mai fel rhan o’i raglen ehangach o sesiynau craffu cyffredinol gyda phob bwrdd iechyd yng Nghymru dros y misoedd nesaf.