Bydd y ddeddfwriaeth gyntaf i gael ei chynnig gan Gomisiwn y Cynulliad yn cynnig creu Panel Annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 19/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Bydd y ddeddfwriaeth gyntaf i gael ei chynnig gan Gomisiwn y Cynulliad yn cynnig creu Panel Annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad

19 Hydref 2009

Cyflwynwyd Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) heddiw (19 Hydref).

Dyma’r Mesur cyntaf erioed i gael ei gynnig gan Gomisiwn y Cynulliad ac mae’n cynnig sefydlu Bwrdd Taliadau newydd, a fydd yn gwbl annibynnol ar Aelodau’r Cynulliad ac a fydd yn pennu cyflogau a lwfansau Aelodau yn y dyfodol.

Roedd cyflwyno’r Mesur yn un o argymhellion allweddol adroddiad y Panel Annibynnol a adolygodd y system o gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.

“Bydd y Mesur yn cryfhau’r broses ddatganoli yng Nghymru,” dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad.

“Bydd yn gosod sail gadarn ar gyfer system o gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad a fydd yn fwy agored a thryloyw ac a fydd yn cael ei pharchu gan y cyhoedd.

“Rydym yn cydnabod bod angen i ni weithredu yng Nghymru mewn ffordd sy’n ystyried anghenion arbennig model democrataidd Cymru, yn hytrach na’n bod yn cysylltu ein cyflogau a’n lwfansau â model sy’n addas ar gyfer San Steffan”.

“Os caiff y Mesur ei basio, bydd yn rhoi terfyn ar y cysylltiad hwnnw ac yn rhoi safbwynt Cymreig unigryw ar y cymorth ariannol y dylid ei roi i Aelodau’r Cynulliad.”

NODIADAU I OLYGYDDION:

Gallwch weld y Mesur llawn ar wefan y Cynulliad: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm

  • Bydd y Mesur arfaethedig hwn yn gweithredu un o argymhellion allweddol y Panel Annibynnol a sefydlwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu’r system o gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.

  • Ar 7 Gorffennaf, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i roi pob un o’r 108 o argymhellion yn adroddiad y Panel Annibynnol ar waith.

  • Un o’r argymhellion oedd torri’r cysylltiad uniongyrchol rhwng cyflogau Aelodau Seneddol a chyflogau Aelodau’r Cynulliad (ar hyn o bryd, telir swm i Aelodau’r Cynulliad sy’n cyfateb i 82% o gyflog Aelodau Seneddol, sy’n cael ei bennu yn San Steffan)

  • Unwaith y bydd y cysylltiad hwnnw’n cael ei dorri, bydd yn rhaid cael ffordd newydd o bennu cyflogau Aelodau’r Cynulliad

  • Yn ogystal â chyfeirio at gyflogau, mae’r Mesur yn cynnig y dylai holl lwfansau Aelodau’r Cynulliad (fel costau swyddfa a lwfansau ar gyfer ail gartrefi) gael eu pennu’n annibynnol

  • Bydd y Mesur arfaethedig yn sefydlu Bwrdd Taliadau Annibynnol gyda chyfanswm o bum aelod, gan gynnwys y Cadeirydd

  • Penodir aelodau’r Bwrdd ar sail statudol a bydd yn gweithredu’n annibynnol ar y Cynulliad

  • Bydd aelodau’n cael penodi yn dilyn cystadleuaeth agored a theg ar ran Comisiwn y Cynulliad, ond bydd y penodiadau’n cael eu cadarnhau yn annibynnol ar yr Aelodau

  • Bydd aelodau’r Bwrdd yn y swydd am dymor sefydlog o bum mlynedd a dim ond am ddau dymor (10 mlynedd) y cânt fod yn aelodau.

  • Y Bwrdd fydd yn penderfynu pryd y bydd yn cyfarfod, ond byddai’n rhaid iddo gyfarfod o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr

  • Fel arfer, dim ond un penderfyniad y gall y Bwrdd ei wneud mewn perthynas â chyflog Aelodau ym mhob sesiwn Cynulliad (pob pedair blynedd) - felly bydd cyflog sylfaenol Aelodau’n aros yn sefydlog am y pedair blynedd hynny

  • Bydd y Bwrdd hefyd yn adolygu’r cymorth ariannol a roddir i Aelodau yn gyson ac yn penderfynu ynghylch gwneud unrhyw newidiadau i’r cymorth hwnnw.

Amserlen y Mesur

Gosod y Mesur – 19 Hydref 2009

Cyfnod 1 – y pwyllgor yn ei ystyried – diwedd mis Tachwedd 2009

Cyfnod 1 – y pwyllgor yn cyflwyno adroddiad – canol mis Mawrth 2010

Cyfnod 1 - dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol – diwedd mis Mawrth 2010

Cyfnod 2 – y pwyllgor yn ei ystyried – diwedd mis Ebrill 2010

Cyfnodau 3 a 4 - y Cynulliad yn ei ystyried a dadl yn y Cyfarfod Llawn – diwedd mis Mai 2010