Bylchau mewn gwasanaethau yn dal pobl ag awtistiaeth yn ôl mewn addysg bellach, yn ôl adroddiad pwyllgor

Cyhoeddwyd 25/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Bylchau mewn gwasanaethau yn dal pobl ag awtistiaeth yn ôl mewn addysg bellach, yn ôl adroddiad pwyllgor

25 Mai 2010

Mae bylchau mewn darpariaeth a chyfathrebu gwael yn golygu nad yw pobl ifanc ag awtistiaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn addysg bellach, yn ôl adroddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Darganfu ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu trawsbleidiol fod bwlch mawr yn parhau i fodoli rhwng y strategaeth a’r polisi ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth o fewn addysg bellach a’r ddarpariaeth ar lawr gwlad.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Gall y cyfnod pontio ar gyfer pobl ag awtistiaeth, pan fyddant yn symud o’r ysgol i sefydliad addysg bellach, fod yn anodd a gall achosi straen heb fod angen.

“Un o’r pethau mwyaf pwysig y mae person ifanc ag awtistiaeth ei angen yw amser: amser i addasu, amser i ddod i arfer ag amgylchedd newydd, ac amser i dderbyn newid mewn arferion ac amgylchedd.

“Mewn sawl achos, nid yw pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu hysbysu’n ddigon cynnar yn y flwyddyn a fydd ganddynt le mewn addysg bellach, sy’n gallu achosi straen dianghenraid i bawb.

“Mae’n rhaid sicrhau bod cyfathrebu cynt a gwell rhwng yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r broses o gynnal asesiadau a gwneud penderfyniadau ynglyn â dyfodol person ifanc.”

Clywodd y Pwyllgor hefyd fod pobl ifanc yn gorfod teithio’n bell i fynd i golegau arbenigol yn Lloegr pan fod cyfleusterau yng Nghymru sy’n llawer agosach i gartref.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio canfyddiadau’r adroddiad hwn a gwneud y gwelliannau angenrheidiol fel mai’r dysgwr unigol yw gwir ganolbwynt y gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na’u bod yn canolbwyntio ar weithdrefnau a phrosesau, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai Gareth Jones AC.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru i wella darpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ag awtistiaeth mewn addysg bellach. Maent yn cynnwys:

- gwella prosesau casglu data i ganfod faint o bobl sydd ag awtistiaeth yng Nghymru er mwyn cynllunio yn fwy effeithiol ar gyfer darparu addysg bellach yn y dyfodol.

- darparu gweithwyr pontio lefel uwch ar gyfer pob person ifanc yng Nghymru ag awtistiaeth o’r adeg y byddant yn 14 oed ymlaen.

- sicrhau bod rhieni pobl ifanc sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig yn gallu gwneud ceisiadau am gyllid ar gyfer lleoliadau arbenigol 12 mis cyn dechrau’r tymor coleg, a’u bod yn cael hysbysiad o’r penderfyniad bod lle wedi’i gyllido iddynt erbyn 31 Mawrth

- sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei gwasanaethu gan fforymau aml-asiantaeth, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr ardaloedd peilot

- caffael darpariaeth addysg bellach fwy cydlynol a rhesymegol ar gyfer pobl ifanc ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, er mwyn i fyfyrwyr o Gymru allu derbyn y gwasanaethau addysg bellach arbenigol sydd eu hangen arnynt yn nes at lle maent yn byw.

- gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn colegau ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt.

- gwella dealltwriaeth ynghylch Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ymhlith cyflogwyr, staff a myfyrwyr coleg a Gyrfa Cymru.

- adolygu sut y cyllidir y broses bontio ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o addysg cyn- i ôl-16 i sicrhau cysoneb a sefydlogrwydd ledled y system.

- sicrhau bod rhwydwaith cenedlaethol o gyngor, arweiniad a chefnogaeth effeithiol ac arbenigol ar gael i unigolion a theuluoedd y mae Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig yn effeithio arnynt.