Cadarnhau Laura Anne Jones fel Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru

Cyhoeddwyd 02/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/07/2020

​Mae Laura Anne Jones wedi ei chadarnhau fel Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru yn dilyn marwolaeth Mohammad Asghar y mis diwethaf.

Mae Elin Jones, AS Llywydd y Senedd, wedi cael gwybod gan y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Mae trefniadau'n cael eu gwneud i Ms Jones dyngu ei llw.

Mae Laura Anne Jones yn olynu Mohammad Asghar fel y person nesaf ar restr ranbarthol Ceidwadwyr Cymru o ran etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, cyn i enw'r sefydliad newid.

Dyma'r eildro i Ms Jones gynrychioli Dwyrain De Cymru, am iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad rhwng 2003 a 2007 a gwasanaethu fel llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar chwaraeon.