Cadeirydd Pwyllgor yn galw am rôl i’r Cynulliad wrth benodi Cadeirydd

Cyhoeddwyd 27/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2015

​Yn unol ag arferion seneddol sefydledig, ac yng ngoleuni pryderon diweddar a godwyd o ran annibyniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad, Alun Ffred Jones AC, wedi galw am i'r Pwyllgor chwarae rhan yn y gwaith o asesu ymgeisydd dewisol Llywodraeth Cymru cyn gwneud y penodiad. 

Mewn llythyr at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, dywedodd Alun Ffred Jones:

"Mae swyddi tebyg ar lefel y DU yn destun gwrandawiad cyn cadarnhau yn y Senedd. Er enghraifft, mae Cadeirydd Natural England a Chadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn y ddwy swydd sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn hon.

"Yn ogystal, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal gwrandawiadau o'r fath cyn penodi'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

"Gofynnaf felly bod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cael y cyfle i gynnal gwrandawiad gyda'r ymgeisydd a ffefrir cyn ei benodi.

"Fel Pwyllgor, rydym yn ymwybodol o'r canfyddiad bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhy agos at y Llywodraeth ac nad yw wedi bod mor annibynnol â rhai o'r cyrff a'i rhagflaenodd.

"Mae caniatáu craffu annibynnol ar yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y swydd bwysig hon yn cynnig tawelwch meddwl i'r cyhoedd ynglŷn â'r penodiad yn y pen draw; mae'n cadarnhau dilysrwydd y sawl a benodir; ac, yn hollbwysig, mae'n darparu tystiolaeth o annibyniaeth meddwl yr ymgeisydd."

Mae'r Pwyllgor yn aros am ymateb gan y Llywodraeth.