Chwifio’r faner dros gydraddoldeb pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol

Cyhoeddwyd 05/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Chwifio’r faner dros gydraddoldeb pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol

05 Chwefror 2013

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol drwy chwifio baner yr enfys uwchben ei ystâd ym Mae Caerdydd a Bae Colwyn o 7 Chwefror ymlaen.

Caiff baner safon yr Enfys ei chodi drwy’r ystâd am 12.15 o’r gloch, a bydd cyfle i dynnu lluniau gyda’r Llywydd, naill ai ar risiau’r Senedd neu yn y Neuadd, yn dibynnu ar y tywydd.

Yn ymuno â’r Llywydd bydd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad dros Gydraddoldeb, yn ogystal ag aelodau o rwydwaith staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a staff.

Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn cydnabyddiaeth pellach o waith y Cynulliad yn y maes hwn gan Stonewall, y grwp hawliau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol.

Am y bumed flwyddyn yn olynol maent wedi gosod y Cynulliad ymhlith y cyflogwyr mwyaf ystyriol o anghenion gweithwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn y DU – gan gynyddu ei sgôr unwaith eto eleni.

Dywedodd y Llywydd: “Rwy’n falch bod y Cynulliad yn gwneud cymaint o waith cadarnhaol ym maes hawliau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol.

“Ond mae rhagor o waith i’w wneud er mwyn sicrhau y caiff Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol eu cydnabod yn gyfartal ym mhob agwedd ar fywyd, ac yn arbennig ym maes gwleidyddiaeth prif ffrwd.

“Dyna’r rheswm pam y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at Fis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol drwy chwifio’r faner uwchben ein hystâd ar draws Cymru. Drwy gydol mis Chwefror hefyd, bydd arddangosfa o Arwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn y Senedd”.

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb yn y Cynulliad: “Mae Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn dathlu amrywiaeth a lluosedd diwylliannol, sy’n rhywbeth y byddwn yn ymdrechu i’w wneud yn y Cynulliad.

“Unwaith eto, mae’r gwaith hwn wedi’i gydnabod gan Stonewall, ac mae’n bleser mawr gennyf gymryd rhan yn y seremoni hon i chwifio baner safon yr Enfys uwchben ystâd y Cynulliad.”

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi cyflawni’r gwaith a ganlyn i sicrhau bod y Cynulliad yn lle mwy ystyriol o anghenion gweithwyr hoyw:

  • Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol i ddathlu Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol;

  • Bydd arddangosfa o Arwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn y Senedd drwy gydol mis Chwefror;

  • Rydym yn parhau i fynd â Bws y Cynulliad i wyl Mardi Gras Caerdydd lle mae'r Llywydd wedi areithio ar y prif lwyfan ac wedi cyfarfod â llawer o'r rhai a oedd yn bresennol;

  • Rydym wedi ehangu'n gweithgareddau i ymwneud â'r gymuned drwy ymgynghori â grwpiau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol wrth ddatblygu'n Cynllun Cydraddoldeb ac wedi ffilmio fideos gwrth-fwlio ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Trawsffobia;

  • Rydym yn cynhyrchu bwletinau cydraddoldeb bob mis sy'n cynnwys gwybodaeth, newyddion, cyhoeddiadau, cynadleddau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ac ati;

  • Rydym yn hybu Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn fewnol drwy'n polisïau staff cynhwysol, ein hyfforddiant a'n sesiynau codi ymwybyddiaeth;

Mae gennym uwch hyrwyddwr Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a nifer o uwch gydweithwyr cefnogol sy'n hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol ac yn allanol.