Codi banner yr enfys yn y Cynulliad Cenedlaethol i ddathlu mis hanes LGBT

Cyhoeddwyd 19/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Codi banner yr enfys yn y Cynulliad Cenedlaethol i ddathlu mis hanes LGBT

19 Chwefror 2014

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi mis hanes pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) drwy godi banner yr enfys uwchben ei ystadau ym Mae Caerdydd a Bae Colwyn ar 19 Chwefror.

Bydd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, aelodau o rwydwaith staff LGBT y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a staff yn ymuno â'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, i nodi'r achlysur o godi'r faner.

Mae hyn yn dilyn cydnabyddiaeth bellach o waith y Cynulliad yn y maes hwn gan grwp hawliau LGBT Stonwall.

Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enwi fel y lle mwyaf hoyw-gyfeillgar i weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2014.  Nodwyd y Cynulliad yn rhif 11 o 100 o gyflogwyr gorau'r DU.

Dywedodd y Llywydd, “Rwy'n falch bod y Cynulliad yn gwneud cymaint o waith cadarnhaol ym maes hawliau LGBT”.

“Mae'r gwaith hwnnw wedi cael cydnabyddiaeth gan Stonewall UK, ac mae Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn gosod y Cynulliad yn gadarn yn agos at y brig.

“Fodd bynnag, ni allwn eistedd yn ôl a llaesu ein dwylo; mae llawer o waith i'w wneud o hyd.

“Rhan o'r gwaith hwnnw yw cefnogi mis hanes LGBT drwy chwifio banner yr enfys uwchben ein hystadau ledled Cymru.

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb: “Mae mis hanes LGBT yn ymwneud â dathlu amrywiaeth a lluosogrwydd diwylliannol, sy'n rhywbeth rydym ni'n ymdrechu i'w wneud yn y Cynulliad.

“Mae Stonewall wedi cydnabod y gwaith hwn eto ac rwy' wrth fy modd fod y Cynulliad yn nodi mis hanes LGBT unwaith eto.”

Eleni, bydd rhwydwaith staff LGBT y Cynulliad, sef OUT-NAW, a'u cyfeillion yn cynnal arddangosfa o’u harwyr LGBT yn y Senedd drwy gydol y mis, gan ganolbwyntio ar unigolion LGBT sy'n dylanwadu ac yn ysbrydoli.