Mae Bethan Jenkins AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i gyhoeddiad y BBC ynghylch colli swyddi.
Dywedodd Ms Jenkins:
“Roeddwn yn bryderus iawn am gyhoeddiad y BBC i gael gwared â 300 o swyddi o gangen gynhyrchu Stiwdios y BBC, fel rhan o'r ailstrwythuro. Mae hynny'n cynnwys 27 swydd yng Nghymru.
“Bydd y Pwyllgor ynholi Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, am hyn yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd.
“Mae'r staff yng Nghymru yn gyfrifol am gynhyrchu amrywiaeth eang o raglenni sy'n rhan fawr o gynnyrch y BBC, gan gynnwys Crimewatch, Bargain Hunt ac X-Ray.
“Bydd y Pwyllgor yn awyddus i gael sicrwydd gan Mr Hall am ddyfodol y BBC yng Nghymru, o ran rhaglenni sy'n benodol i Gymru, yn ogystal â pharhad y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy'n gweithio yn Stiwdios y BBC.
“Er bod colli'r swyddi hyn yn peri pryder, rwyf eisoes wedi ceisio sicrwydd am oblygiadau'r cyhoeddiad hwn ar gyfer cyflogau ac amodau'r staff sy'n weddill.
“Yn fwy cyffredinol, mae'n codi'r cwestiwn a yw gwneud stiwdios y BBC yn sefydliad deillio yn ei gwneud yn anoddach i'r BBC gyflawni ei rhwymedigaethau i bortreadu ac adlewyrchu Cymru yn y DU yn gyffredinol yn ogystal ag o fewn Cymru ei hun.
“Mae'n amlwg bod nifer o gwestiynau difrifol i'r Arglwydd Hall eu hateb pan ddaw gerbron y Pwyllgor ac rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Pwyllgor eisiau gwneud yn siŵr bod yr Arglwydd Hall yn ymwybodol o'r pryderon am hyn ac amryw faterion eraill sy'n ymwneud â rôl y BBC a'i chyfrifoldeb i Gymru.”