Comisiwn y Cynulliad yn cyflwyno Bil newydd i gadarnhau ei ymrwymiad i wasanaethau dwyieithog
30 Ionawr 2012
Cyflwynwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) heddiw (Dydd Llun 30 Ionawr) gan Gomisiwn y Cynulliad.
Bydd Bil cyntaf y Cynulliad i gael ei gyflwyno gan y Comisiwn yn rhoi dyletswydd statudol ar y Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad o ran y gwasanaethau dwyieithog a ddarperir ganddynt.
Amlinellir y gwasanaethau hynny yng nghynllun ieithoedd swyddogol drafft y Comisiwn sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae’r ddwy ddogfen yn cymeryd i ystyriaeth sylwadau a gafwyd fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus cyn y broses ddeddfu a barodd dri mis.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, “Mae’r Bil Ieithoedd Swyddogol a’r cynllun drafft yn cadarnhau ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i ddwyieithrwydd,”
“Mae’r cynllun ieithoedd swyddogol yn dangos agwedd arloesol a phragmatig ar ddefnyddio technolegau newydd yn y maes hwn.
“Mae’r model arfaethedig ar gyfer paratoi cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn, er enghraifft, yn manteisio ar gyfieithu peirianyddol yn ogystal â chyfieithwyr profiadol. Bydd y model hwn yn ein galluogi i fewnbynnu testun safonol i’r system, a hynny gan wella’r cof cyfieithu. Bydd gwneud hynny’n gwella’r gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill.
Caiff y ddarpariaeth well o wasanaethau dwyieithog i’w cynnig gan y Pedwerydd Cynulliad ei hamlinellu yn y cynllun ieithoedd swyddogol. Mae’r cynllun hwn yn:
datgan yn glir mai’r Gymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad ac y dylent gael eu trin yn gyfartal;
amlinellu’r trefniadau ymarferol er mwyn galluogi’r Cynulliad i weithredu’n ddwyieithog;
sicrhau hawliau unrhyw un sy’n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad (tystion a swyddogion yn ogystal ag Aelodau) i wneud hynny drwy gyfrwng unrhyw un o ieithoedd swyddogol y Cynulliad;
amlinellu sut fydd y Cynulliad yn darparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd;
amlinellu sut mae trefniadau corfforaethol y Cynulliad yn galluogi a chefnogi ei ddyhead i ddarparu gwasanaethau dwyieithog; ac yn
esbonio gweithdrefn y Cynulliad i ddelio â chwynion oherwydd methiant i gydymffurfio â’r cynllun, boed i’r cwynion hynny gael eu gwneud gan Aelodau neu gan y cyhoedd.