Comisiynydd Gwybodaeth y Deyrnas Unedig yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Tachwedd 2009Bydd Christopher Graham yn cyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad i ateb cwestiynau am ei gynlluniau ar gyfer gwaith swyddfa y Comisiwn Gwybodaeth.
Bydd yr ymweliad hefyd yn adeiladu ar y gwaith y mae’r Cynulliad eisoes wedi ei wneud gyda swyddfa’r Comisiwn Gwybodaeth mewn perthynas â rhyddid gwybodaeth a gwarchod data.
“Rwy’n ymwybodol iawn o’r berthynas waith wych sydd wedi’i datblygu rhwng fy swyddogion i a staff swyddfa y Comisiwn Gwybodaeth yma yng Nghaerdydd,” meddai’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.
“Ac rydym am gynnal y berthynas waith agos hon, a dyna pam y mae angen i ni, fel sefydliad, fabwysiadu dull agored o weithio o ran rhannu’r wybodaeth yr ydym yn ei chreu.
“Gellir gweld ein bod yn dymuno mabwysiadu dull o’r fath drwy ein hymateb i geisiadau am wybodaeth am dreuliau Aelodau’r Cynulliad a wnaethpwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y llynedd.
“Drwy hyn, darparwyd gwybodaeth glir a hawdd i’w weld i’r cyfryngau a’r cyhoedd. Cafodd y dull hwn o weithio groeso ac, o ganlyniad, rwy’n credu bod hyn wedi ennyn hyder pobl Cymru.”
Penodwyd Christopher Graham yn Gomisiynydd Gwybodaeth ym mis Mehefin eleni.
Yn 2003, penodwyd Anne Jones yn Gomisiynydd Cynorthwyol dros Gymru.
“Fel y Comisynydd Gwybodaeth newydd a Phrif Weithredwr swyddfa y Comisiwn Gwybodaeth, mae’n hanfodol fy mod i’n cynnal hawliau gwybodaeth er lles cyhoeddus, hybu cyrff cyhoeddus i fod yn agored a sicrhau gwarchod data unigolion.
“Rwy’n edrych ymlaen i gwrdd â swyddogion a gwleidyddion i weld sut y gallwn wnued gwelliannau pellach fel bod hawliau gwybodaeth yn dod yn realiti i fwy o bobl yng Nghymru.”