Confensiwn Cyfansoddiadol – Llywydd y Cynulliad yn galw am i lais Cymru gael ei glywed mewn trafodaethau ynghylch trefniadau cyfansoddiadol y DU yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 21/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Confensiwn Cyfansoddiadol – Llywydd y Cynulliad yn galw am i lais Cymru gael ei glywed mewn trafodaethau ynghylch trefniadau cyfansoddiadol y DU yn y dyfodol

21 Mawrth 2014

Mae Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor seneddol ynghylch trefniadau cyfansoddiadol y DU yn y dyfodol.

Mae Pwyllgor Dethol Ty’r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad yn casglu tystiolaeth ar hyn o bryd ynghylch y goblygiadau cyfansoddiadol posibl i weddill y DU os bydd canlyniad y refferendwm yn yr Alban o blaid annibyniaeth.

Yn ei thystiolaeth, dywedodd y Fonesig Rosemary bod yn rhaid i lais Cymru chwarae rôl ganolog mewn unrhyw drafodaethau â’r Alban yn y dyfodol os bydd canlyniad y refferendwm o blaid annibyniaeth.

"Rwy’n credu ei bod yn briodol i bwy bynnag sy’n cynnal trafodaethau ar ran gweddill y DU ystyried y deddfwrfeydd datganoledig sy’n weddill, a bod yn atebol iddynt," meddai’r Fonesig Rosemary yn ei thystiolaeth.

Yn ei thystiolaeth, mae’r Llywydd hefyd yn galw am sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol i ystyried trefniadau cyfansoddiadol y DU – beth bynnag y bo’r canlyniad yn yr Alban.

Yn ôl y Fonesig Rosemary, er mai’r Alban sy’n hoelio sylw pawb ar hyn o bryd, daw’r refferendwm ar adeg pan fo newid cyfansoddiadol ar waith ledled y DU, gydag adroddiadau Comisiwn Silk ynghylch Cymru ac argymhellion Comisiwn McKay y llynedd o ran pleidleisio dros ddeddfau sy’n ymwneud â Lloegr.

"Mae’r bleidlais yn yr Alban yn tynnu sylw at ba mor bwysig ydyw i nodi’n glir setliadau cyfansoddiadol y cenhedloedd sy’n rhan o’r DU," meddai’r Llywydd yn ei thystiolaeth.

"Mae angen eglurder ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig – a dylai penderfyniadau ar yr hyn sydd orau i bobl Cymru fod yn rhan ganolog o’r gwaith hwnnw, gan gydnabod bod ewyllys bendant pobl Cymru o blaid cael deddfwrfa ddatganoledig.

"Y ffordd orau o sicrhau’r eglurder hwn, yn fy marn i, yw sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol, â’r nod o ddatblygu fframwaith cyfansoddiadol cyson rhwng sefydliadau deddfwriaethol gwahanol y DU.

"Byddai fframwaith cyfansoddiadol yn sicrhau sylfaen gadarn a allai gynnal datblygiad datganoli yn y dyfodol.

"Dylai unrhyw drafodaethau ynghylch cyfansoddiad y DU yn y dyfodol gynnwys cynrychiolwyr o’r deddfwrfeydd datganoledig, gan gydnabod rôl eu Llefaryddion a’u Llywyddion fel ceidwaid y sefydliadau democrataidd hynny."

Ychwanegodd y Llywydd y gellid defnyddio casgliadau Comisiwn Silk fel man cychwyn pe bai’r Confensiwn yn ystyried Cymru yng nghyd-destun cyfansoddiad tiriogaethol ehangach y Deyrnas Unedig.

Er mwyn gweld tystiolaeth y Llywydd yn llawn, cliciwch yma.