Côr Plant Destiny Africa yn dychwelyd i berfformio yn y Pierhead

Cyhoeddwyd 27/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Côr Plant Destiny Africa yn dychwelyd i berfformio yn y Pierhead

27 Hydref 2011

Bydd côr o blant amddifad o Uganda yn rhoi perfformiad unigryw i gynulleidfa yn y Pierhead ar 1 Tachwedd, fel rhan o’u hymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae 20 o blant rhwng 8 a 16 oed yng Nghôr Destiny Africa, ac maent i gyd naill ai’n amddifad neu maent wedi colli un rhiant a’r llall yn methu gofalu amdanynt oherwydd rhyfel, tlodi enbyd neu salwch cysylltiedig ag AIDS.

Ar ôl perfformio yn Stryd Downing a gerbron Archesgob Caergaint, mae’r côr wedi dod yn adnabyddus ar y llwyfan rhyngwladol am eu perfformiadau egnïol, ac mae’n ymweld â’r Cynulliad am yr eildro fel rhan o’u taith “Rhythmau Bywyd” o amgylch Ewrop.

Bydd y gynulleidfa’n cynnwys Aelodau’r Cynulliad, grwpiau o bobl ifanc a’r cyhoedd ehangach a fydd yn cael cyfle i glywed hanes ysbrydoledig y plant o Ganolfan Pant Kampala yn Uganda.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC: “Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn ddeddfwrfa eang ei gorwelion sydd â llawer i’w gynnig a’i ddysgu.

“Rwy’n falch iawn bod Côr Plant Destiny Africa yn dychwelyd i Gymru, yn dilyn eu hymweliad cyntaf rhyfeddol yn 2010.

“Ar ôl eu hymweliad diwethaf, roedd yn galonogol clywed bod gan bobl ifanc o Ganolfan Plant Kamapala gymaint o ddiddordeb mewn democratiaeth yng Nghymru ac rwy’n falch eu bod yn gallu dychwelyd a dysgu rhagor.

“Bydd yr ymweliad heddiw hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru glywed am fywydau rhai o’u cyfoedion yn y Gymanwlad a’r gymuned ryngwladol ehangach.”

Dywedodd Cadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, Joyce Watson AC: “Cefais fy ethol yn ddiweddar yn Gadeirydd Cangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad – sy’n noddi’r digwyddiad heddiw – ac rwy’n falch iawn mai dyma’r ymweliad rhyngwladol cyntaf o bwys i’w gynnal yn y Pedwerydd Cynulliad.

“Mae lles, diogelwch a datblygiad plant a phobl ifanc yn arbennig o agos at fy nghalon. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gyfarfod â’r plant o Kampala ac at glywed eu hanes o obaith drwy gyfrwng eu harddull, eu doniau a’u mynegiant unigryw fel rhan o Gâr Plant Destiny Africa.”

Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael am ddim i’r cyhoedd ar gyfer perfformiad Côr Plant Destiny Africa yn y Pierhead. Cysylltwch â archebu@Wales.gov.uk neu 0845 010 5500. Bydd y perfformiad 45 munud yn dechrau am 18.15.

Mae rhagor o wybodaeth am Ganolfan Plant Kampala a Chôr Plant Destiny Africa ar gael ar eu gwefan www.destinyafrica.org, gan gynnwys ffotograffau ar gyfer y wasg.

Cliciwch yma i weld fideo o ymweliad Destiny Africa â’r Pierhead yn 2010.

Cliciwch yma i weld fideo o ymweliad Destiny Africa â Stryd Downing.