Creu’r diwylliant cywir: Sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn lle rhagorol i weithio

Cyhoeddwyd 11/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/12/2017

Fel rhan o ymrwymiad a lofnodwyd gan Lywydd y Cynulliad, arweinwyr y pleidiau gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, mae ymholiad ar y gweill i sicrhau bod y Cynulliad yn cynnig amgylchedd gwaith cynhwysol, cadarnhaol ac agored. 

Bydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd, gan gynnwys codau ymddygiad Aelodau’r Cynulliad a staff, a’r gweithdrefnau ar gyfer nodi methiant i gydymffurfio â’r rhain.

Bydd canfyddiadau’r ymchwiliad yn helpu i lywio polisi newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch parch ac urddas.

Dywedodd Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

“Nid oes lle i ymddygiad amhriodol yn ein sefydliad. Rydym am sicrhau bod pawb yn teimlo y gallant fynegi pryderon am ymddygiad unrhyw un sy’n gysylltiedig â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Er bod rheolau a gweithdrefnau clir ynghylch ymddygiad wedi’u nodi yng nghodau ymddygiad Aelodau’r Cynulliad a’r staff, mae’n amlwg nad yw pobl yn teimlo’n ddigon hyderus am sut i’w defnyddio. Mae’n hollbwysig fod pawb yn ymwybodol o rôl y Comisiynydd Safonau annibynnol.

“Fel senedd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau diwylliant sefydliadol cynhwysol, sy’n galluogi pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac sy’n lle rhagorol i weithio sy’n croesawu miloedd o ymwelwyr i’w ystâd.”  

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 31 Ionawr 2018. Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad fynd i dudalennau’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y we am fwy o wybodaeth.

Hefyd, bydd ymrwymiad gan y Pwyllgor i adolygu’r cosbau sydd ar gael i sicrhau yr ymdrinir ag unrhyw achosion o ymddygiad amhriodol yn gywir yn destun ymchwiliad ar wahân.

I gynorthwyo pobl ar hyn o bryd, os oes unrhyw un am drafod ffyrdd o roi gwybod am unrhyw ymddygiad sydd wedi peri pryder, rydym yn eu hannog i gysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ein llinell ffôn gyfrinachol ar 0800 020 9550.

Fel arall, gall pobl anfon e-bost at y cyfeiriad a ganlyn i gael cyngor ar y llwybrau adrodd: UrddasaPharch@cynulliad.cymru.