Creu senedd i Gymru: rydym am wybod beth yw eich barn chi

Cyhoeddwyd 12/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/02/2018

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i ymateb i gynigion newydd i ail-lunio democratiaeth Gymreig a gyhoeddir gan Gomisiwn y Cynulliad heddiw.

Lluniwyd yr ymgynghoriad wrth ragweld pwerau newydd a roddwyd i'r Cynulliad yn Neddf Cymru 2017. 

Mae'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad wneud penderfyniadau mewn perthynas â maint y sefydliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol.  

Yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori ar argymhellion adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, "Senedd sy'n Gweithio i Gymru". 

Yn dilyn dadansoddiad manwl o'r dystiolaeth, argymhellodd y Panel fod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol ar y Cynulliad, wedi'u hethol trwy system etholiadol fwy cyfrannol gydag amrywiaeth wrth ei gwraidd. Mae'r panel hefyd yn argymell y dylid gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnwys pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed.

Bydd yr ymgynghoriad ar yr argymhellion yn rhedeg o 12 Chwefror am gyfnod o wyth wythnos, gan ddod i ben ar 6 Ebrill. 

Yn ogystal ag argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, mae’r ymgynghoriad yn cynnwys diwygiadau posibl eraill o ran pwy all bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, pwy sy’n cael bod yn Aelod o’r Cynulliad, a newidiadau i’r gyfraith yn ymwneud â gweinyddiaeth etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad. 

Mae'r Comisiwn eisoes wedi ymgynghori ar newid enw'r Cynulliad, ac o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw bydd yr enw'n newid i Senedd Cymru. 

 


"Mae gennym gyfle nawr i greu'r senedd genedlaethol y mae pobl Cymru'n haeddu ei chael i fod yn llais drostynt."

- Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Meddai'r Llywydd, Elin Jones AC: 

“Mae Deddf Cymru 2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru, gan roi cyfle inni wneud newidiadau pellgyrhaeddol i'n deddfwrfa. Mae gennym gyfle nawr i greu'r senedd genedlaethol y mae pobl Cymru'n haeddu ei chael i fod yn llais drostynt.

Dyma ddechrau sgwrs gyda phobl a chymunedau Cymru am y math o sefydliad y maen nhw am i'w Senedd Cymru fod. Edrychaf ymlaen at glywed eu barn.”

Mae yna nifer o ffyrdd y gall pobl roi eu barn i Gomisiwn y Cynulliad am y diwygiadau posib:

  • Mynd i ficrowefan yr ymgynghoriad www.seneddydyfodol.cymru a llenwi arolwg ar-lein. Gallant ddewis ateb y cwestiynau am bob cynnig, ynteu dim ond y rhai sydd o'r diddordeb mwyaf iddynt.

Rydym hefyd yn trefnu digwyddiadau rhanbarthol gyda sefydliadau partner i roi cyfle i bobl ddysgu mwy am y cynigion a'u trafod gyda'r Llywydd. 

Bydd rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a'r digwyddiadau rhanbarthol, gan gynnwys sut i gymryd rhan, ar gael ar wefan yr ymgynghoriad dros yr wythnosau nesaf.

 



Creu Senedd i Gymru

Dyma ddechrau cyfnod newydd o ddatganoli a dyma'ch cyfle chi i ddweud wrthym sut rydych chi am i'ch Cynulliad Cenedlaethol fod.

Darllenwch fwy ›