Y Pwyllgor Diwylliant i drafod yr Ardd Fotaneg
Bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 13 Gorffennaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin.
Bydd y Pwyllgor yn trafod yr Ardd Fotaneg ac yn cael adroddiad cynnydd ar sefyllfa Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael adroddiad am Gemau'r Gymanwlad a gynhaliwyd yn ddiweddar ac yn trafod materion yn ymwneud a'r adolygiad o Bêl-droed yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau 13 Gorffennaf rhwng 1:30pm a 4:30pm yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin.
Manylion llawn ac agenda
Culture Committee to discuss Botanic Gardens
Cyhoeddwyd 13/07/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014