Cydnabod cyfraniad menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn narlith Goffa'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 07/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2018

​​

Poppy

Cydnabod cyfraniad menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn narlith Goffa'r Cynulliad Cenedlaethol


Darlith Dydd y Cofio 2018 -'Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf'
Lleoliad: Neuadd, y Senedd, Bae Caerdydd
Dyddiad: Dydd Mawrth 6 Tachwedd
Amser: 18.00 - 20.00 

 Suffragette Grand March, London

 

Bydd yr awdur a'r hanesydd uchel ei pharch, Dr Dinah Evans yn traddodi darlith Dydd y Cofio yn y Senedd eleni ar thema cyfraniad menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Dr Evans yn Gydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor gan arbenigo ar effaith y ddau ryfel byd ar Gymru a chymdeithas Cymru.


Bydd darlith Dr Evans yn canolbwyntio ar y menywod a gamodd i'r adwy i lenwi'r swyddi pan aeth y dynion i ffwrdd i ymladd. Roedd y menywod yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau a oedd yn cyflenwi'r bomiau a'r sieliau, neu'n gweithio mewn ysbytai ar y rheng flaen gan drin cleifion mewn amgylchiadau erchyll.


Mae'r ddarlith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau gan y Cynulliad Cenedlaethol i nodi cyfraniad menywod mewn cymdeithas, gan gynnwys mudiad y bleidlais a arweiniodd at rai menywod yn derbyn yr hawl i bleidleisio 100 mlynedd yn ôl.


Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:


"Rwyf wrth fy modd yn croesawu Dr Dinah Evans i'r Senedd, am yr hyn rwy'n siŵr fydd yn gipolwg diddorol ar rôl menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.


"Mae ei darlith yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau trwy gydol mis Tachwedd, gan gynnwys arddangosfa fydd yn ysbrydoli, sef Y Mudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru, sy'n dychwelyd i'r Senedd.


"Byddwn hefyd yn dangos darn o waith celf rhyngweithiol diddorol gan Scarlet Raven a Marc Marot sy'n dod â stori un milwr yn fyw mewn ffordd hardd gan roi cyfle i bobl ymgolli'n llwyr yn ei hanes.

 Cardiff WFL branch

 

Dywedodd Dr Dinah Evans:

 


"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dod ag erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw i gymaint o bobl drwy'r wlad.


"Mae llawer o'r sylw wedi canolbwyntio ar brofiad y dynion yn y rhyfel, llawer ohonyn nhw'n fawr mwy na bechgyn. Ond roedd gan y milwyr, morwyr ac awyrwyr hyn famau, gwragedd, chwiorydd a merched, ac mae eu hanes nhw o'r rhyfel yn bwysig hefyd.


"Fe wnaeth nifer o fenywod o bob oed, ac er gwaethaf rhaniadau dosbarthiadau cymdeithasol yr oes, hefyd chwarae eu rhan yn y rhyfel. Roedd rhai yn gwneud swyddi a oedd yn rhyddhau dynion i fynd i'r frwydr, gan gynnwys miloedd o fenywod a merched a oedd yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau ledled Cymru, gan beryglu eu hiechyd a'u bywydau, wrth iddynt greu sieliau a'u llenwi â ffrwydron. Fe wnaeth menywod ifainc eraill o Gymru hyfforddi i fod yn nyrsys a theithio i faes y gad ar draws Ewrop a'r Dwyrain Canol, lle roeddent yn nyrsio'r milwyr sâl ac angheuol gan beri perygl sylweddol i'w bywyd eu hunain.


"Mae wir mor bwysig ein bod yn deall y rhan y chwaraeodd dynion a menywod fel ei gilydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd bryd hynny'n unig y gallwn ddeall cymaint oedd eu hymdrech a'u haberth."


Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y ddarlith, wedi'i chadeirio gan Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, Dr Elin Royles. Bydd yr Adran honno hefyd yn dathlu ei chanmlwyddiant gan iddi gael ei sefydlu yn 1919 yn fuan ar ôl Diwrnod y Cadoediad fel ymateb i frwydrau erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf.


Dywedodd Dr Royles:


"Ganrif yn ôl, roedd erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf, a brofwyd ar draws y byd, yn gymhelliad i'r Arglwydd David Davies a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies i wneud cyfraniad ariannol i sefydlu Cadeiryddiaeth ac Adran i astudio sut i hybu gwell perthynas rhwng gwledydd y byd.


"Arweiniodd hyn at sefydlu Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth.


"Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle i ystyried holl oblygiadau'r rhyfel erchyll hwnnw, gan gynnwys yr effaith gymhleth y mae wedi'i chael ar y gymdeithas.


"Felly, gwych o beth yw cael Dinah Evans yn narlith Dydd y Cofio yn canolbwyntio ar gyfran o'r gymdeithas a anghofir mewn hanes a gwleidyddiaeth wrth drafod ymateb y menywod yng Nghymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Bywgraffiadau
Mae Dr Dinah Evans yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Ei maes o ddiddordeb penodol yw effaith y ddau ryfel byd ar Gymru a chymdeithas Cymru. Mae 'Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf' yn bwnc y mae Dr Dinah Evans wedi ymchwilio'n helaeth iddo, ac mae ei gwaith ymchwil wedi'i gyhoeddi fel pennod yn ‘Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr Ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru’, a gyhoeddwyd yn 2016. Mae Dr Dinah Evans hefyd yn aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru.


Mae Dr Elin Royles yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd yr adran honno hefyd yn dathlu ei chanmlwyddiant gan iddi gael ei sefydlu yn 1919 yn fuan ar ôl Diwrnod y Cadoediad fel ymateb i frwydrau erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf.


Diwrnod y Cofio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:

Arddangosfeydd
Dyddiad: 1-25 Tachwedd 2018
Lleoliad: Senedd, Oriel


'Mudiad y Bleidlais i Fenywod yng Nghymru'


Bu mudiad a sefydlwyd ar gyfer y bleidlais i fenywod yn gweithredu'n barhaus ym Mhrydain am fwy na chwe deg o flynyddoedd, gan ennill etholfraint rannol ym 1918 a sicrhau hawliau pleidleisio cyfartal â dynion, o'r diwedd, ddeng mlynedd yn ddiweddarach.


Nod yr arddangosfa hon yw rhoi cipolwg ar ran Cymru yn yr ymgyrch hirfaith, amlbwrpas hon, y ffotograffau, y delweddau a'r arteffactau sy'n ceisio dangos rhai o'i phrif elfennau.


‘The Soldier’s Own Diary’  gan Scarlet Raven and Marc  Marot

 
Artistiaid yw Scarlett Raven a Marc Marot o dan yr enw “The Augmentists”.


Maent yn cyfuno eu sgiliau i greu gwaith celf sy'n dangos stori ddwys y Rhyfel Mawr drwy farddoniaeth, lluniau a cherddoriaeth.


Mae 'The Soldier's Own Diary' yn adrodd hanes y milwr Robert Phillips o Gymru, a wnaeth ddianc o garchar rhyfel a gwneud ei ffordd yr holl ffordd adref i'r cymoedd. Daw ei stori'n fyw drwy ddefnyddio realiti estynedig drwy'r ap 'Blipper' ar ffonau clyfar neu ddyfeisiau ar gael gan y Cynulliad.


Mae Castle Fine Art, Caerdydd, sef y cwmni sy'n cynrychioli'r artistiaid, wedi cytuno i roi'r darn ar fenthyg erbyn Dydd y Cofio i bobl Cymru allu ei weld, a bydd nifer yn siŵr o allu uniaethu rywsut â stori Robert Philips.


Cynhadledd Cymru dros Heddwch


Ddydd Mawrth 6 Tachwedd, bydd Cymru dros Heddwch yn cynnal cynhadledd ar y thema, ‘Shaping the Future We Wish to See – Young people’s role in building a more peaceful Wales and the world’, sef y bumed cynhadledd flynyddol, mewn partneriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Nod y gynhadledd yw rhoi llwyfan i lais pobl ifanc. Bydd cyfle i'r bobl ifanc sy'n bresennol drafod tair thema sy'n gysylltiedig â heddwch, a gofyn eu cwestiynau i banel o Aelodau Cynulliad yn Siambr Hywel cyn ymweld â'r Deml Heddwch lle gwobrwyir y chwe ysgol gyntaf i gael eu gwneud yn Ysgolion Heddwch.