Cyfarfod ar y Cyd Cyntaf rhwng Pwyllgor y Cynulliad a’r Pwyllgor Materion Cymreig er mwyn craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig

Cyhoeddwyd 14/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfarfod ar y Cyd Cyntaf rhwng Pwyllgor y Cynulliad a’r Pwyllgor Materion Cymreig er mwyn craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig

Bydd Pwyllgor y Cynulliad, a sefydlwyd i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch gofal cartref, yn cynnal cyfarfod ar y cyd gyda Pwyllgor Materion Cymreig Ty’r Cyffredin ddydd Iau 17 Ionawr i glywed tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC.

Ar hyn o bryd mater i awdurdodau lleol unigol yw codi tâl am ofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl.  Mae hyn wedi arwain at amrywiadau sylweddol yn y polisïau codi tâl ar gyfer gwasanaethau cyfatebol ar draws Cymru.  

Byddai Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch codi tâl am Ofal Cymdeithasol Dibreswyl (Gofal Cartref) – yn galluogi’r Cynulliad i gyflwyno cyfreithiau, a elwir yn Fesurau, i reoli’r modd y mae awdurdodau lleol yn pennu taliadau, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r gwahaniaethau sy’n bodoli.  Math o is-ddeddfwriaeth yw Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, sy’n trosglwyddo pwerau penodol o Senedd y DU i’r Cynulliad.  Mae’n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad a Senedd y DU.                                         

Dywedodd Joyce Watson AC, Cadeirydd y Pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig ynghylch Gofal Cartref: “Rwy’n falch ein bod yn cyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig ar 17 Ionawr pan fydd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC yn rhoi tystiolaeth mewn cysylltiad â’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig.  Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod diddorol ac at gychwyn perthynas waith adeiladol gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig, a fydd o fydd i’r ddau sefydliad fel ei gilydd.”