Cyfarfod cyhoeddus y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Cyhoeddwyd 19/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfarfod cyhoeddus y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

19 Mawrth 2010

Digwyddiad: Cyfarfod cyhoeddus y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Pryd: Dydd Llun, 22 Mawrth, 10:00 – 12:00
Ble: Neuadd y Dref y Rhyl, Heol Wellington, y Rhyl, LL18 1AB

Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn y Rhyl fel rhan o’i ymchwiliad i fannau diogel i chwarae a chymdeithasu.

Bydd Grwp Gweithredu y Rhyl, Clwb Iwth Pen a Chlwb Pêl-droed y Rhyl i gyd yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad yn ystod y bore. Yn y prynhawn, cynhelir sesiynau anffurfiol a gweithdai er mwyn casglu tystiolaeth gan rieni a phlant.

Penderfynwyd cynnal yr ymchwiliad o ganlyniad i adroddiad ‘Chi Sy’n Bwysig’ y Pwyllgor, a gynhaliwyd yn ystod haf 2009. Dangosodd yr adroddiad fod plant yng Nghymru yn pryderu ynghylch faint o fannau diogel sydd ar gael iddynt i chwarae a chymdeithasu.

Dywedodd Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydw i a gweddill aelodau’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at fynd i’r Rhyl.

“Rydym eisoes wedi clywed llawer o dystiolaeth bwysig ond mae hwn yn gyfle i ni weld drosom ein hunain y gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu mannau diogel ac hefyd i glywed yn uniongyrchol gan blant a rhieni mewn amgylchedd llai ffurfiol.

“Ar ddechrau’r ymchwiliad, gofynnom i blant a phobl ifanc lenwi holiadur yn gofyn iddynt am eu syniadau hwy ynghylch mannau diogel i chwarae a chymdeithasu.

“Rwy’n falch o ddweud y cawsom fwy na 500 o ymatebion i’r holiadur hwnnw a byddant oll yn cynorthwyo’r gwaith o lunio casgliadau ac argymhellion ein hadroddiad.”

Fel rhan o’r diwrnod yn y Rhyl, bydd yr Aelodau’n ymweld â Chanolfan Integredig i Deuluoedd yng Ngronant ynghyd â maes chwarae antur y Rhyl.

Er bod y gweithdy yn y prynhawn yn llawn, mae’r gweithdy gyda’r nos (18.30 – 19.30) ar agor i bawb sydd am alw heibio.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno mynd i’r cyfarfod cyhoeddus ffurfiol yn y bore archebu tocynnau drwy gysylltu â llinell wybodaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 0845 010 5500, drwy anfon neges e-bost at assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk, neu drwy ymweld â gwefan y Cynulliad, www.cynulliadcymru.org.

Rhaglen y digwyddiadau:

10.00 – 12.00 Cyfarfod Pwyllgor ffurfiol – Neuadd y Dref y Rhyl.

13.00 – 14.30 Gweithdai a sesiynau casglu tystiolaeth anffurfiol i blant a phobl ifanc – Neuadd y Dref y Rhyl.

15.30 – 17.30 Ymweliadau – Canolfan Integredig i Deuluoedd, Gronant a maes chwarae antur y Rhyl.

18.30 – 19.30 Gweithdai a sesiynau casglu tystiolaeth anffurfiol i rieni ac aelodau’r gymuned – Neuadd y Dref y Rhyl (ar agor i bawb).