Cyfarfod rhyng-seneddol ar fasnachu mewn pobl i gael ei gynnal yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfarfod rhyng-seneddol ar fasnachu mewn pobl i gael ei gynnal yng Nghymru

22 Mehefin 2012

Bydd y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig (BIPA) yn dod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal cyfarfod pwyllgor ar 25 Mehefin.

Y Gynhadledd hon fydd y cam cyntaf mewn ymchwiliad i fasnachu mewn pobl yn y DU ac Iwerddon.

Bydd aelodau’r pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Bob Tooby, Cydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl, Llywodraeth Cymru, a Mwenya Chimba o BAWSO (Black Association of Women Step Out).

Bydd Joyce Watson AC, cadeirydd y Grwp Gwaith Holl-bleidiol ar Fasnachu mewn Pobl yng Nghymru, hefyd yn annerch y pwyllgor.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae BIPA yn sefydliad pwysig iawn sy’n caniatáu i ddeddfwrfeydd o bob rhan o’r DU ddod at ei gilydd i ystyried sut y gallwn gydweithredu i fynd i’r afael â materion sydd o ddiddordeb i ni i gyd.”

“Masnachu mewn pobl yw, yn ei hanfod, caethwasiaeth fodern, lle mae llawer o blant ifanc a menywod yn benodol yn cael eu gwerthu i fyw bywydau lle y cânt eu cam-drin.”

“Mae’n iawn i bob un ohonom yn y DU ac Iwerddon gydweithio i geisio rhoi terfyn ar yr arfer dychrynllyd hwn.”

“A thrwy gydweithio a chreu ffyrdd mwy cydgysylltiedig o weithio, dylai hynny helpu. Mae’n dechrau yma yng Nghymru, gyda’r gynhadledd hon ac rydym yn falch o hwyluso’r gwaith o ddechrau rhywbeth a fydd, gobeithio, yn strategaeth a fydd yn rhyddhau’r bobl ifanc hyn o fywyd o gaethwasiaeth.”

Mae’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r Cynulliad Cenedlaethol, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd San Steffan, Senedd Iwerddon a seneddau Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.