Cyfle cyntaf i Aelodau ddeddfu

Cyhoeddwyd 26/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfle cyntaf i Aelodau ddeddfu

Cynhaliwyd y balot cyntaf ar gyfer Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth i wneud deddfwriaeth ar gyfer Cymru o dan bwerau newydd y Cynulliad.   Rhoddir cyfle i Jenny Randerson AC gyflwyno mesur ar brydau ysgol iachach tra bydd Ann Jones AC yn ceisio cael Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Ddiogelwch Tân yn y Cartref.   Mae Deddf Llywodraeth Cymru’n rhoi pwer i’r Cynulliad wneud ei ddeddfwriaeth ei hun ar faterion datganoledig fel iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol.  Bydd y rhain yn gategori newydd o gyfreithiau Cymru a elwir yn Fesurau’r Cynulliad.   Cyn gwneud Mesurau mewn perthynas â maes penodol o lywodraeth ddatganoledig, bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ‘cymhwysedd deddfwriaethol’ – yr awdurdod cyfreithiol i basio Mesurau – fesul achos gan Senedd y DU.         Gellir caniatáu cymhwysedd deddfwriaethol naill ai mewn Deddfau Seneddol neu drwy ddefnyddio’r llwybr newydd o “Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol” (LCO), ac unwaith y caiff y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ar destun gan Senedd y DU, gall ddechrau ar y broses o basio Mesurau’r Cynulliad.