Cyfle i ddweud eich dweud am anghenion tai Cymru

Cyhoeddwyd 07/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfle i ddweud eich dweud am anghenion tai Cymru

7 Hydref 2011

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymgynghoriad i anghenion tai Cymru, ac mae’n galw am dystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad.

Bydd y Pwyllgor yn rhoi sylw i ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru ac yn archwilio pa mor effeithiol yw cymhorthdal cyhoeddus, fel Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a ddefnyddir i ariannu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn gweld a wneir y defydd mwyaf posibl o’r dewis amgen i gymhorthdal cyhoeddus ar adeg pan fo arian cyhoeddus mor brin.

Ymysg y materion eraill a fydd yn cael eu trafod gan y Pwyllgor yw’r lefel o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sefydliadau ariannol ac adeiladwyr tai er mwyn darparu tai fforddiadwy.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Gwyddom fod y ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn faes polisi pwysig i Lywodraeth Cymru, sydd wedi gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â’r mater dros y blynyddoedd diwethaf.

“Fodd bynnag, mae’r rhestr aros ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru yn dal i fod yn hir. Oherwydd y sefyllfa economaidd, mae hyn yn effeithio nid yn unig ar dai cymdeithasol a gaiff eu rhentu ond hefyd ar berchentyaeth cost isel a thai rhentu preifat yn fwy cyffredinol.

“Mae’n amlwg bod hwn yn fater o bwys i Gymru, ac rydym ni fel Pwyllgor yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y maes i gyflwyno’i sylwadau i’r ymchwiliad pwysig hwn.”

Gellir cyflwyno tystiolaeth drwy e-bost: Pwyllgor.CCLlL@cymru.gov.uk neu drwy’r post: Clerc y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.