Cyflogau Deiliaid Swyddi

Cyhoeddwyd 14/07/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyflogau Deiliaid Swyddi

Heddiw, cyhoeddodd y Bwrdd Taliadau annibynnol fanylion am y cyflogau ychwanegol a fydd yn cael eu talu i ddeiliaid swyddi yn y Pedwerydd Cynulliad.

Bydd y rhain yn cael eu rhewi am bedair blynedd.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus George Reid, Cadeirydd y Bwrdd: “Rydym ni o’r farn bod ein penderfyniadau yn deg, yn glir ac yn gynaliadwy.”

“Maent yn briodol i Gymru, yn cynrychioli gwerth am arian ac yn adlewyrchu cyfrifoldebau Aelodau Cynulliad sy’n ddeiliaid swyddi ychwanegol.”

Ychwanegodd Mr Reid bod y Bwrdd, yn dilyn tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig helaeth, yn cydnabod pwerau deddfwriaethol ychwanegol y Pedwerydd Cynulliad – a’i bwrpas sylfaenol o graffu ar ddeddfwriaeth, dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a chynrychioli pobl Cymru.

Bydd cadeiryddion wyth Pwyllgor yn cael cyflog o £12,420 yr un. Mae hyn yn cydnabod cynnydd yng nghyfrifoldeb pump ohonynt, sy’n cyfuno swyddogaethau deddfwriaethol a chraffu, a rôl tebyg tri phwyllgor arall i graffu ar gynigion y Llywodraeth.

Bydd cadeiryddion dau Bwyllgor llai yn cael cyflog o £8,280 yr un.

Bydd Comisynwyr y Cynulliad hefyd yn cael £12,420 yr un. Mae hyn yn cydnabod eu cyfrifoldebau o lywodraethu a chyllido’r ddeddfwrfa’n dda, a’u hymrwymiad i rôl sydd yn fwy colegol ac yn fwy rhagweithiol. Bydd taliadau i chwipiau’n dod i ben.

Dywedodd Mr Reid: “Nid yw’n briodol bod pwrs y wlad yn talu am swydd sy’n ymwneud â swyddogaethau pleidiau gwleidyddol yn eu hanfod.”

Fodd bynnag, mae rôl rheolwyr busnes i drefnu a chytuno ar fusnes y Cynulliad wedi’i chydnabod.

Byddant yn cael cyflog sylfaenol o £6,210 ac elfen gyfraneddol o £250 am bob aelod yn eu grwp, gyda chap ar y cyflog hwn o £12,420.

Roedd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Bwrdd yn nodi mai gan arweinwyr y gwrthbleidiau roedd y lefel uchaf o gyfrifoldeb y tu allan i’r Llywodraeth. Nododd Mr Reid: “Mae’n rhaid iddynt fod â gafael ar bopeth, o bolisi i gyfeiriad mewnol, ac mae’n rhaid iddynt gael gweledigaeth wahanol i Gymru sy’n wahanol i un y Prif Weinidog.

“Fodd bynnag, nid oeddem yn gallu derbyn y ffaith ei bod yn briodol i arweinydd yr wrthblaid fwyaf gael £30,000 yn fwy nag arweinydd yr wrthblaid nesaf, fel ddigwyddodd mewn blynyddoedd blaenorol. Mewn Cynulliad sy’n lled gymesurol, efallai mai dim ond ychydig o seddi sydd rhyngddynt, neu gallant fod â’r un nifer o aelodau. Rydym wedi datblygu ffordd o gyfrifo cyflogau arweinwyr y gwrthbleidiau mewn ffordd sy’n deg, yn dryloyw ac yn addas i’r Pedwerydd Cynulliad.”

Yn y dyfodol, bydd arweinwyr y gwrthbleidiau yn cael cyflog o £12,420 ac elfen gyfraneddol o £1,000 ar gyfer pob sedd sydd gan yr wrthblaid. Yn y Pedwerydd Cynulliad, bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn cael £26,420, arweinydd Plaid Cymru yn cael £23,240 ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael £17,420.

Mae hyn yn ostyngiad o £71,170 (7.2%) o’i chymharu â’r Trydydd Cynulliad. Gweler y tabl isod.

Dywedodd Mr Reid: “Ar ôl astudio sgiliau a chyfrifoldebau y swyddi ychwanegol, mae’r Bwrdd wedi penderfynu perthnasedd sydd ynghlwm â’r swyddi, a phennu system eglur y gellir ei defnyddio mewn Cynulliadau yn y dyfodol”.

Adroddiad : Taliadau Deiliaid Awyddi - Adroddiad Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Gorffennaf 2011)

Cyfanswm cyflogau ychwanegol i ddeiliaid swyddi[4]

Cyflogau Deiliaid Swyddi

Swydd

Cyflog deiliad

y swydd

(£)

Nifer y swyddi

(Mawrth 2011)

Cyfanswm

(£)

Cyflog deiliad

y swydd

(£)

Nifer y swyddi

(Gorffennaf 2011)

Cyfanswm

(£)

Prif Weinidog

80,870

1

80,870

80,870

1

80,870

Dirprwy Brif Weinidog

41,949

1

41,949

41,949

0

0

Gweinidogion Cymru

41,949

7

293,643

41,949

7[2]

293,643

Cwnsler Cyffredinol

41,949

1

41,949

41,949 plus 53,852[3]

1

95,801

Llywydd

41,949

1

41,949

41,949

1

41,949

Dirprwy Weinidogion

26,385

4

105,540

26,385

3

79,155

Dirprwy Lywydd

26,385

1

26,385

26,385

1

26,385

Arweinydd yr wrthblaid fwyaf

41,949

1

41,949

-

-

-

Arweinwyr y gwrthbleidiau eraill

12,168

1

12,168

-

-

-

Arweinydd yr wrthblaid (14 Aelod)

-

-

-

26,420

1

26,420

Arweinydd yr wrthblaid (11 Aelod)

-

-

-

23,240

1

23,240

Arweinydd yr wrthblaid (5 Aelod)

-

-

-

17,420

1

17,420

Comisynwyr y Cynulliad

12,168

4

48,672

12,420

4

49,680

Cadeirydd Pwyllgor (uwch)

12,168

12

146,016

12,420

8

99,360

Cadeirydd Pwyllgor (is)

8,112

5

40,560

8,280

2

16,560

Prif Chwip y Llywodraeth

26,385

1

26,385

0

1

0

Prif Chwip yr wrthblaid

12,168

1

12,168

0

1

0

Rheolwyr Busnes y pleidiau (30 Aelod)

-

-

-

12,420

1

12,420

Rheolwyr Busnes y pleidiau (14 Aelod)

0

1

0

9,710

1

9,710

Rheolwyr Busnes y pleidiau (11 Aelod)

0

1

0

8,960

1

8,960

Rheolwyr Busnes y pleidiau (5 Aelod)

0

1

0

7,460

1

7,460

Cyfanswm

41

£960,203

35

£889,033