Cyflwynwyd deiseb ynghylch Cylchffordd Cymru i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn y Senedd.
Mae'r ddeiseb yn datgan:
"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i hwyluso'r ffordd i ddechrau gweithio ar Gylchffordd Cymru cyn gynted â phosibl er mwyn cynorthwyo i adfywio Blaenau Gwent, Blaenau'r Cymoedd a De Cymru yn gyffredinol."
Cyflwynwyd y ddeiseb, a oedd wedi casglu tua 3,500 o lofnodion, i aelodau'r Pwyllgor Deisebau.