Cyfnod 1 Mesur cyntaf y Cynulliad wedi dod i ben

Cyhoeddwyd 29/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfnod 1 Mesur cyntaf y Cynulliad wedi dod i ben

Mae Cyfnod 1 Mesur cyntaf y Cynulliad wedi dod i ben heddiw (dydd Mawrth 30 Ionawr), gyda’r Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007 yn y Cyfarfod Llawn. Bydd Cyfnod 2, sef ystyriaeth fanwl y Pwyllgor o’r Mesur arfaethedig, yn dechrau yfory. Nod y Mesur yw ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gleifion y GIG hawlio iawndal pan pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda’u triniaeth.