Cyfoeth o brofiad o’r stafell fwrdd a’r sector cyhoeddus i sicrhau atebolrwydd ac arfer gorau yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 07/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/02/2019

Llun: (Chwith – Dde) Aled Eurig, Ceri Hughes, Sarah Pinch, Ann Beynon, Robert Evans.

 

Bydd pum cynghorydd annibynnol profiadol newydd yn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol i barhau â'i ymrwymiad i atebolrwydd ac arfer gorau.

Mae gan bob un o'r cynghorwyr gyfoeth o brofiad corfforaethol a phrofiad ym maes materion cyhoeddus o amrywiaeth eang o sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys busnesau mawr y DU, adrannau'r llywodraeth a chyrff trydydd sector proffil uchel.

Mae'r Comisiwn yn defnyddio cynghorwyr annibynnol i sicrhau bod Comisiynwyr ac uwch dîm rheoli'r Cynulliad yn cael eu cynorthwyo a'u herio mewn modd adeiladol wrth eu gwaith.

Bydd y cynghorwyr yn ymwneud â gwaith monitro perfformiad ac yn cadw golwg  beirniadol ar weithdrefnau rheolaeth ariannol a gweithdrefnau rheoli risg y Cynulliad fel aelodau o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Comisiwn.  

Dyma'r cynghorwyr annibynnol newydd:

 

Ann Beynon

Bu Ann yn Gyfarwyddwr BT Cymru, yn Bennaeth Materion Gwleidyddol a Rhyngwladol S4C ac yn Gomisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Roedd yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi. Ar hyn o bryd, mae Ann yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Hafren Dyfrdwy, sy'n rhan o Grŵp Severn Trent plc, a hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Gwasanaethau Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru. Mae hefyd yn aelod o Gyngor CBI Cymru.

 

Robert (Bob) Evans

Mae Bob yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig sydd â phrofiad mewn rheoli ariannol, archwilio a rheoli risg. Yn dilyn gyrfa yn Nhrysorlys EM, IBM a Banc Lloegr, cafodd ei benodi'n Gynghorydd Ariannol yn Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo. Yn dilyn cyfnod yn Swyddfa'r Cabinet, daeth yn Gyfarwyddwr Cyllid yn y Swyddfa Twyll Difrifol, ac yna yn yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA). Yn y rolau hyn, mae wedi arwain rhaglenni newid trawsnewidiol pwysig i ddiwygio systemau llywodraethu a rheoli. Yn ystod ei gyfnod yn IPSA, roedd yn ofynnol iddo ymddangos yn rheolaidd gerbron y Llefarydd, gerbron Pwyllgorau Dethol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd roedd yn un o ymddiriedolwyr y Gronfa Bensiwn Seneddol. Mae Bob hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol mewn cyngor sir ac mewn un o adrannau'r Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae'n un o ymddiriedolwyr Canolfan Ffoaduriaid Oasis yng Nghaerdydd ac yn Gadeirydd grŵp Cyfeillion Llong Casnewydd.

 

Sarah Pinch

Mae Sarah wedi dilyn gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, gan gynnwys bod yn Bennaeth Cyfathrebu a gwneud rolau Cysylltiadau Cyhoeddus gyda First Group PLC a bod yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbytai Prifysgol Bryste. Sarah yw Cyfarwyddwr Rheoli cwmni Pinch Point Communications. Mae ganddi nifer o rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol, gan gynnwys bod yn aelod o Fwrdd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae hefyd yn cadeirio Sefydliad Taylor Bennett, elusen sy'n ceisio lleoli mwy o raddedigion BAME ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu corfforaethol. Cyrhaeddodd Sarah safle 30 yn rhestr y Financial Times, sef yr HERoes Business List, sy'n dathlu 100 o fenywod rhyngwladol sy'n annog y genhedlaeth nesaf o arweinwyr sy'n fenywod.

 

Ceri Hughes

Mae Ceri yn Gyfarwyddwr yn KPMG yn y DU, lle mae hi'n Bennaeth Dysgu.  Mae Ceri yn rhan o dîm arweinyddiaeth y cwmni ym maes 'Swyddogaeth Bobl', ac yn rhan o dîm arweinyddiaeth swyddogaethol grŵp perfformiad Gwasanaethau Busnes KPMG, lle mae hi'n dylanwadu ar strategaeth y cwmni ym maes gwasanaethau busnes. Dros gyfnod o 19 mlynedd gyda'r cwmni, mae Ceri wedi gweithio yn y DU ac yn rhyngwladol, ac wedi ymgymryd â rolau ym meysydd Gwasanaethau Trafodiadau, Datblygu'r Farchnad a KPMG International.  Mae Ceri wedi cwblhau cymhwyster MBA ac mae ganddi gymhwyster MSC mewn Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion. Mae hi'n Rheolwr Siartredig, yn Gymrawd o'r Sefydliad Rheoli Siartredig a'r Gymdeithas Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion, ac mae hi'n fentor achrededig ar gyfer Sefydliad Menywod Cherie Blair.

 

Aled Eirug

Roedd Dr Aled Eirug yn newyddiadurwr am 25 mlynedd, a bu'n Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru rhwng 1992 a 2003. Rhwng 2006 a 2011, bu'n gynghorydd cyfansoddiadol i'r Llywydd yn y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru (2010-2016), ac yn Gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru (2007-2012). Ar hyn o bryd, mae'n aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom ac mae'n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ddiweddar, mae wedi cyhoeddi dau lyfr ar y gwrthwynebiad a gafwyd i'r Rhyfel Mawr yng Nghymru.

 

 

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae'r cynghorwyr annibynnol sy'n ymuno â ni oll wedi dangos safon eithriadol yn eu meysydd penodol.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hwy wrth gynnal a datblygu ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i atebolrwydd, llywodraethu da ac arfer gorau yn ystod eu daliadaeth."