Cyfraniadau arbennig at fywyd cyhoeddus – y Llywydd yn cael Doethuriaeth Anrhydeddus

Cyhoeddwyd 10/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfraniadau arbennig at fywyd cyhoeddus – y Llywydd yn cael Doethuriaeth Anrhydeddus

10 Medi 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cael Doedduriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru.

Cafodd y ddoethuriaeth ei chyflwyno i’r Llywydd mewn seremoni ar gampws y brifysgol yng Nghaerllion ar 7 Medi am ei chyfraniadau arbennig at fywyd cyhoeddus.

Dywedodd Mrs Butler, “Mae’n anrhydedd mawr cael gwobr o’r fath gan Brifysgol De Cymru”.

“Rwyf wedi cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ers llawer o flynyddoedd, ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, rwy’n gobeithio fy mod wedi llwyddo i sicrhau’r math o newidiadau sydd wedi gwella bywydau llawer o bobl yng Nghasnewydd a Chymru’n fwy eang.

“Fodd bynnag, ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi wneud ymrwymiad o’r fath heb gefnogaeth Derek, fy ngwr, a Kate ac Alice, fy merched - felly diolchaf yn fawr iddynt hwy.”

Daeth y Llywydd yn rhan o fywyd cyhoeddus am y tro cyntaf ym 1973, pan gafodd ei hethol yn gynghorydd dros Gaerllion ar Gyngor Bwrdeistref Casnewydd. Bu’n gynghorydd nes 1999.

Yn ei chyfnod ar y cyngor, bu’n cadeirio’r Pwyllgor Gwasanaethau Hamdden am 12 blynedd, a bu’n Ddirprwy Arweinydd ac yn Faer Casnewydd (1989/1990).

Y Llywydd oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf i gael ei hethol dros Orllewin Casnewydd ym mis Mai 1999, ac mae wedi’i hail-hethol ym mhob un o etholiadau’r Cynulliad ers hynny.

Cafodd Mrs Butler ei hethol i Gabinet cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol fel Gweinidog Addysg Cyn 16 Oed a Phlant, a bu’n cadeirio’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Hefyd, hi oedd cynrychiolydd y Cynulliad ar Bwyllgor y Rhanbarthau yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hi hefyd wedi bod yn Ddirprwy Lywydd, ac, ym mis Mai 2011, cafodd ei hethol yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol mewn pleidlais unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad.

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, “Rydym yn ymwybodol o gyfraniadau arbennig y Llywydd at fywyd cyhoeddus, ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniadau hyn, fel cynghorydd lleol, Aelod o’r Cynulliad ac yn ei rôl bresennol fel Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru”.

“Rydym yn cydnabod ei phwyslais ar bobl Cymru’n bod yn ymwybodol o waith y Cynulliad a sut y gallant ddylanwadu arno.

“Rydym hefyd yn gwerthfawrogi ei diddordeb mewn cydraddoldeb, ac yng nghydraddoldeb rhywiol yn benodol.”