Cyhoeddi rhestr fer Cewri Cymru

Cyhoeddwyd 29/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi rhestr fer Cewri Cymru

Mae’r arwr rygbi Ray Gravell, y cantorion Tom Jones a Katherine Jenkins, y deddfwr Hywel Dda a Dewi Sant ei hun ymhlith y rheini sydd yn y ras i ennill cystadleuaeth Cewri Cymru, a drefnir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Lansiwyd yr ymgais i ddod o hyd i hoff berson y genedl ar 31 Ionawr, ac ers hynny mae ymwelwyr â’r Senedd, gan gynnwys disgyblion ar ymweliadau addysgol, wedi bod yn pleidleisio. Roedd modd pleidleisio drwy’r post yn ogystal.

Erbyn hyn, mae rhestr fer o ddeg enw wedi’i llunio a bydd y pleidleisio’n parhau tan fis Awst, pan gyhoeddir yr enillydd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dyma’r enwau sydd ar y rhestr fer:

Ray Gravell
Katherine Jenkins
Dewi Sant
Gethin Jones
James Hook
Joe Calzaghe
Tom Jones
Bryn Terfel
Hywel Dda
Ryan Giggs

Pleidleisiodd nifer o’r plant ysgol a fu’n ymweld â’r Senedd dros eu hathro neu eu hathrawes yn hytrach na Chymro neu Gymraes enwog!

O Ddydd Gwyl Dewi, bydd modd i ymwelwyr â’r Senedd a swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn bleidleisio dros un o’r enwau sydd ar y rhestr fer. Gall unrhyw un sy’n awyddus i bleidleisio drwy’r post anfon eu henwebiad i: Cewri Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, RHADBOST SWC 2258, Bae Caerdydd, CF99 1GY.

Mae cystadleuaeth Cewri Cymru yn rhan o weithgareddau amrywiol yn y Senedd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Am y tro cyntaf erioed, bydd Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi yn gorffen yn yr adeilad, a bydd y gorymdeithwyr yn cael eu croesawu yno gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd. Yn y Senedd, o hanner dydd ymlaen, bydd perfformiadau gan Gôr CF1, Cwmni Dawns Caerdydd, Band Drymiau Dur Ysgol Fitzalan a gweithgareddau gan gynnwys peintio wynebau, lliwio lluniau a sesiynau blas ar ddysgu Cymraeg.

Bydd yr Orymdaith, a gaiff ei threfnu gan wirfoddolwyr gyda chymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Caerdydd, yn dechrau o Amgueddfa Genedlaethol Cymru am 1.15pm cyn gorffen yn y Senedd am 2.15pm. Mae croeso i bawb ymuno â’r orymdaith neu ddod i groesawu’r gorymdeithwyr wrth iddynt gyrraedd y Senedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.stdavidsday.org