Cyllideb Llywodraeth Cymru yn annigonol i wynebu heriau’r dirywiad economaidd

Cyhoeddwyd 13/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyllideb Llywodraeth Cymru yn annigonol i wynebu heriau’r dirywiad economaidd

13 Tachwedd 2009

Nid yw cyllideb Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ymateb yn “ddigonol” i’r sefyllfa economaidd sy’n wynebu Cymru.

Dyna farn Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn adroddiad ar gynigion cyllideb ddrafft y Llywodraeth.

Dywedodd Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor, “Sylw pennaf y Pwyllgor Cyllid yw’r farn ei bod yn ymddangos nad yw’r gyllideb ddrafft yn ymateb yn ddigonol i’r amgylchiadau anodd sy’n wynebu Cymru, sydd bellach yng nghanol un o’r cyfnodau gwaethaf o ddirwasgiad a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf.”

“Mae’r Pwyllgor yn derbyn fod gan y Llywodraeth ymrwymiad i’r amcanion yng nghytundeb Cymru’n Un ond mae’n ei chael yn anodd deall sut y bydd yn bosibl eu cyflawni heb roi llawer mwy o flaenoriaeth i’r mater o lywio’r economi yn ei blaen ac allan o’r dirwasgiad.

“Hoffem fod wedi gweld mwy o fanylion am y cyllid ychwanegol sydd ar gael i’r Llywodraeth ac sydd wedi cael eu defnyddio i wella a chryfhau’r cyllid sydd ar gael o fewn y portffolio Economi a Thrafnidiaeth.”

“Roedd y Pwyllgor yn pryderu’n bennaf am y diffyg eglurder o ran y cyllid sydd ar gael  mewn cysylltiad ag addysg a’r arbedion sydd eu hangen, felly bwriad y Pwyllgor yw cynnal ymchwiliad brys i’r mater hwn.”

Roedd gan y Pwyllgor Cyllid gwestiynau am faterion eraill hefyd, gan gynnwys:

  • buddsoddi mewn cyfalaf ac yn bennaf y Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol  y mae’n bwriadu cynnal ymchwiliad iddo;

  • yr anawsterau o ran mesur arbedion effeithlonrwydd;

  • yr hyn sy’n ymddangos fel diffyg cydlyniaeth rhwng portffolios Gweinidogion unigol a’r anawsterau wrth geisio olrhain effeithiolrwydd polisïau trawsbynciol megis tlodi plant.

I gloi, mae’r Pwyllgor Cyllid yn parhau i bryderu am yr amser sydd ar gael i graffu ar y gyllideb. Mae’n gresynu fod yr angen am dystiolaeth bellach wedi golygu iddo fethu’r terfyniad amser o bump wythnos a bennwyd gan y Rheolau Sefydlog, ond roedd o’r farn ei bod yn well cyhoeddi adroddiad cadarn gan y Pwyllgor ar gyfer cyllideb o £16bn.