Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru yn cyflwyno darluniau i Lywydd y Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru yn cyflwyno darluniau i Lywydd y Cynulliad

15 Tachwedd 2011

Ddydd Iau 10 Tachwedd, derbyniodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ddau ddarlun yn ffurfiol ar ran y Cynulliad.

Rhoddwyd y darluniau i’r Cynulliad gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, fel rhan o’i Harddangosfa Ddosbarthu ar gyfer 2011.

Cyflwynwyd y darluniau gan ddau gynrychiolydd o’r gymdeithas, sef Dr Christine Evans, Is-gadeirydd y gymdeithas, a David Moore, Curadur yr Arddangosfa Ddosbarthu.  

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y ddau ddarlun gwych hyn i’w harddangos yma yn y Cynulliad.

“Mae gennym artistiaid gwych yma yng Nghymru ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi’r Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes drwy arddangos eu rhoddion yng nghartref democratiaeth Cymru.  

“Mae’r Cynulliad yn ganolbwynt pwysig ac mae miloedd o ymwelwyr o bob rhan o’r DU, yn ogystal â gweddill y byd, yn ymweld ag ef. Felly, pa le gwell i arddangos treftadaeth a rhagoriaeth artistig Cymru?”.

Dywedodd Mr Moore: “Eleni, cafodd tua 80 o ddarnau o gelf o Gymdeithas Gelfyddyd Cyfoes Cymru eu rhannu ledled y wlad i amgueddfeydd, orielau, prifysgolion a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Cawsant eu harddangos yn Amgueddfa Celf Fodern Cymru ym Machynlleth yn gynharach eleni. Bydd y gweithiau hyn yn cyfoethogi ac yn ategu casgliadau o gelf gyhoeddus o Gymru ac mae ymateb da iawn wedi bod iddynt.

“Mae’r Cynulliad wedi derbyn dau ddarlun o dirluniau yn yr arddull fynegiadol; mae un yn ddarlun olew ar gynfas o Glyn Collwn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gafodd ei beintio yn 2003 gan Veronica Gibson; mae’r llall yn brint leino wedi’i liwio â llaw gan Anthony Evans yn 2004, gyda’r teitl Yn y Berllan.