Cymdeithas Ganŵa Cymru yn cyflwyno deiseb i bwyllgor mewn canŵ.

Cyhoeddwyd 14/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cymdeithas Ganŵa yn cyflwyno deiseb i bwyllgor mewn canŵ

Teithiodd Ashley Charlwood o Gymdeithas Ganŵa Cymru i’r Senedd mewn canŵ heddiw (dydd Iau 10 Ebrill) i gyflwyno deiseb i Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ac i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd, yn annog y Cynulliad i ddilyn model deddfwriaethol yr Alban o ran mynediad cyhoeddus i ddwr mewndirol.

Dwedodd Val Lloyd: “Croesawaf y ddeiseb hon a lofnodwyd gan 8000 o bobl. Mae’n debyg mai hon yw’r ddeiseb fwyaf yr ydym wedi ei derbyn hyd yn hyn. Hoffwn ddweud ar ran aelodau’r Pwyllgor fy mod yn edrych ymlaen at ei thrafod yn ystod ein cyfarfodydd yn y dyfodol.

“Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Deisebau ym mis Gorffennaf y llynedd ac ers hynny mae’r Pwyllgor wedi trafod dros 60 deiseb.  Edrychaf ymlaen yn arbennig at lansiad ein system e-ddeisebau wythnos nesaf a fydd yn rhoi modd i ddeisebwyr bostio deiseb ar ein gwefan ac i gasglu llofnodion ar-lein.  Rydym yn gweithio’n galed i gyfathrebu â dinasyddion Cymru ac mae’r system hon yn cynnig cyfle delfrydol i wneud hynny.”

Gellir cael rhagor o fanylion am y pwyllgor yma.