Cymhlethdod y system grantiau yn golygu bod ysgolion ar eu colled

Cyhoeddwyd 03/08/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

'Cymhlethdod' y system grantiau yn golygu bod ysgolion ar eu colled

Mae ysgolion a cholegau Cymru yn colli cyfleoedd i gael miloedd o bunnoedd mewn grantiau i wella addysg, a hynny oherwydd dryswch ynghylch faint o arian sydd ar gael a sut i wneud cais amdano.

At hynny, canfu ymchwiliad gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod llawer gormod o fân reolau a biwrocratiaeth yn arafu’r broses.

Mae’r adroddiad ar grantiau addysg penodol yn beirniadu Llywodraeth Cynulliad Cymru am system sy’n rhy gymhleth a biwrocrataidd o’r hanner, a honno’n gwbl anaddas ar gyfer y symiau o arian dan sylw.

Dywedodd Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor: Mae aelodau’r Pwyllgor yn cael cwynion di-ben-draw gan ysgolion a cholegau am y grantiau penodol sydd ar gael. Ceir cwynion am bob agwedd ar y grantiau hynny – o brinder gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael, i’r gwaith papur sy’n rhaid ei lenwi er mwyn gwneud cais amdanynt.”

Syfrdanwyd y Pwyllgor gan ba mor anodd yw’r dasg syml o lunio rhestr o’r holl grantiau sydd ar gael. Roedd pryder hefyd bod rhai awdurdodau lleol yn dal gafael ar ran o’r grantiau i dalu am gostau gweinyddol, er mai i ysgolion a cholegau y bwriadwyd y grantiau hynny. Wrth wneud hynny, nid yw’r awdurdodau’n egluro bob amser faint o arian a gymerwyd ac am beth.

Beirniadodd y Pwyllgor hefyd y system archwilio gymhleth sy’n rhaid i sefydliadau ei dilyn er mwyn cyfiawnhau derbyn grantiau cymharol fychain, er eu bod yn rheoli cyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd a bod prosesau archwilio eisoes yn mynd rhagddynt yn sgil hynny.

Dywedodd Angela Burns: Un o’r elfennau siomedig yn yr ymchwiliad hwn yw canfod nad yw’r ‘rheolau’ presennol yn cael eu dilyn o gwbl. Mae’r Pwyllgor wedi adolygu’r sefyllfa sydd ohoni ac wedi nodi ambell gam syml y gallai’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol eu cymryd er mwyn gwneud pethau’n haws o lawer i ysgolion a cholegau.”

Mae’r argymhellion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan y Pwyllgor Cyllid yn cynnwys y canlynol:

Dylai’r Llywodraeth gyhoeddi rhestr o’r holl grantiau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer ysgolion a cholegau, gan roi gwybodaeth glir am faint o arian sydd ar gael a sut i wneud cais amdano.

Dylai awdurdodau lleol gyhoeddi rhestr o’r holl grantiau a dderbyniwyd bob blwyddyn a’r symiau a roddwyd i bob ysgol a choleg. Dylid cyhoeddi hefyd fanylion unrhyw arian a gadwyd at ddibenion gweinyddol.

Dylid sefydlu cynllun ‘grantiau bach’ er mwyn cyflymu’r broses o gael arian ar gyfer prosiectau cymharol fychain.

Y Pwyllgor Cyllid