Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 11/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/02/2019

Mae saith cymrawd ymchwil newydd yn ymuno â'r Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o raglen o wybodaeth a rennir rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru.



Am y tro cyntaf bydd cymrodyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymuno ag academyddion o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.

Dewiswyd y cymrodyr hyn ar gyfer Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd mawreddog y Cynulliad yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol.  Mae hyn yn adeiladu ar gynllun peilot llwyddiannus gyda chwech o gymrodyr academaidd a fu'n gweithio yn 2017 a 2018. Cyhoeddodd y cymrodyr hyn ddeunydd ar ystod eang o feysydd polisi a oedd yn bwydo'n uniongyrchol i waith y Cynulliad a'i bwyllgorau, gan gynnwys y polisi ar ddementia, TB buchol a goblygiadau Brexit i'r Gyfraith Amgylcheddol.

Cynlluniwyd y rhaglen newydd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth y Cynulliad o ran meysydd polisi allweddol, wrth i'r academyddion rannu eu harbenigedd a chynnal ymchwil newydd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac arfer er budd pobl Cymru.

Mae lleoliadau cymrodoriaeth yn rhan-amser am gyfnod o hyd at chwe mis bob tro, a bydd academyddion yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Ymchwil arbenigol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cefnogi Aelodau'r Cynulliad a phwyllgorau yn y Senedd.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Rwy'n croesawu'r saith cymrodoriaeth newydd gyda phrifysgolion o bob cwr o Gymru a fydd yn rhoi mynediad i ni at arbenigedd academaidd ar ystod eang o feysydd polisi pwysig.   

"Mae hyn yn dilyn ein cynllun cymrodoriaeth beilot llwyddiannus ac mae'n rhan o'n rhaglen barhaus i annog pobl i ymgysylltu ag academyddion.   

"Y gobaith yw y bydd manteisio ar yr arbenigedd allanol hyn yn galluogi Aelodau a Staff y Comisiwn i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth.  

"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sy’n cydfynd ag amcan strategol Comisiwn y Cynulliad i ddarparu cefnogaeth seneddol ragorol ac ymgysylltu â holl bobl Cymru."

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad:

"Mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn ymfalchïo ar gyflwyno safon gwasanaeth o safon fyd-eang i Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys ymchwil trwyadl a manwl.

"Mae manteisio ar wybodaeth academyddion uchel eu parch yn hanfodol i ddeall materion cymhleth yng Nghymru a datblygu ffyrdd o fynd i'r afael â nhw.

"O’u rhan hwy, bydd y gwaith ymchwil y maent yn ei gynhyrchu yn llywio dadleuon y Cynulliad, yn gwella'r broses o graffu ar bolisi cyhoeddus ac yn arwain at well canlyniadau i bobl Cymru."

Y cymrodyr ymchwil ar gyfer 2019 yw:

Dr Lucy Griffiths - Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: Plant/Pobl Ifanc - pa mor egnïol ydyn nhw?

Dr Helen Taylor - Prifysgol Metropolitan Caerdydd: A fydd cynnwys pobl sy'n cysgu ar y stryd mewn grwpiau 'angen blaenoriaeth' o dan Ddeddf Tai (Cymru) yn ddigon i ymdrin ag unigolion sy'n cysgu ar y stryd?

Dr Sarah Nason - Prifysgol Bangor: Cyfiawnder Gweinyddol: Pa Rôl i'r Cynulliad?

Dr Roiyah Saltus - Prifysgol De Cymru: Pa ymyriadau i fynd i'r afael ag unigrwydd allai weithio i fudwyr hŷn a phobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru?

Dr Filippos Proedrou - Prifysgol De Cymru: Mynd i'r afael â'r bwlch polisi hinsawdd yng Nghymru: archwilio tystiolaeth newydd, arferion gorau a pholisïau newydd i gefnogi'r gwaith o weithredu cyllidebau carbon llym

Dr Alec Dauncey - Prifysgol Bangor: Rheoli coetiroedd, senarios creu coetiroedd a'u heffeithiau ar reoli carbon, priddoedd a dŵr

Dr David Dallimore - Prifysgol Bangor: Mynediad at ofal plant/darpariaeth y blynyddoedd cynnar