Cyngerdd mawreddog gyda Karl Jenkins i ddathlu pen-blwyddi canolfannau diwylliannol a gwleidyddol Cymru

Cyhoeddwyd 13/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyngerdd mawreddog gyda Karl Jenkins i ddathlu pen-blwyddi canolfannau diwylliannol a gwleidyddol Cymru

18 Tachwedd 2009

Bydd cyngerdd mawreddog i nodi dengmlwyddiant datganoli a phum mlynedd ers sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei gynnal yn y ganolfan y penwythnos hwn (14 Tachwedd).

Bydd y dathliad ar gyfer Cymru gyfan yn cyd-fynd â phen-blwydd y cyfansoddwr nodedig yn 65 oed, a bydd y cyngerdd yn cynnwys darn a gyfansoddwyd yn arbennig gan Mr Jenkins i nodi dengmlwyddiant datganoli yng Nghymru. Caiff ei berfformio am y tro cyntaf yn gyhoeddus y penwythnos hwn.   

Bydd y cyngerdd yn cynnwys rhai o’i gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys darnau o Songs of Sanctuary, Requiem, Stabat Mater, The Armed Man, ac Adiemus, a werthodd dros filiwn o gopïau.

Bydd Karl Jenkins yn rhannu’r llwyfan am y noson gyda’r arweinydd Gareth Jones, a nifer o unawdwyr adnabyddus o Gymru, gan gynnwys y soprano ryngwladol Rebecca Evans, y delynores Catrin Finch, a’r cantorion Elin Fflur a Rhydian Roberts.

Bydd y corau Cymreig Côrdydd, Côr Caerdydd, Aelwyd y Waun Ddyfal a Cantata hefyd yn perfformio, ar y cyd â Sinfonia Cymru.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y Cynulliad Cenedlaethol enwau’r unigolion a fu’n llwyddiannus yn y gystadleuaeth i ennill tocynnau i’r cyngerdd. Enillwyd wyth par o docynnau gan bobl ledled Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, “Nid y Cynulliad Cenedlaethol a’i drigain o Aelodau yn unig yw datganoli”.

“Mae’n golygu annog mwy o bobl i gyfrannu at y broses wleidyddol ac annog cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru i ddweud eu dweud am ddyfodol y wlad.

“Felly, mae’n briodol bod pobl o bob rhan o Gymru yn ymuno â ni wrth i ni nodi 10 mlynedd o ddatganoli gyda dathliad cerddorol unigryw.”