Cynllun Operation Black Vote y Cynulliad Cenedlaethol yn ennill gwobr Sianel 4 am gynllun arloesol

Cyhoeddwyd 28/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynllun Operation Black Vote y Cynulliad Cenedlaethol yn ennill gwobr Sianel 4 am gynllun arloesol      

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Operation Black Vote (OBV) sef Cynllun Cysgodi Aelodau’r Cynulliad, wedi ennill Gwobr Wleidyddol nodedig iawn Cymdeithas Hansard/ Sianel 4.

Lansiwyd y cynllun yn Hydref 2007 ac mae’n cynnwys naw o bobl ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig o bob rhan o Gymru yn cysgodi Aelodau’r Cynulliad o’r pedair prif blaid.  Mae’r prosiect yn annog rhai o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a’i nod yw cynyddu’r nifer o Aelodau’r Cynulliad sy’n dod o’r cefndiroedd hynny.

Dyma’r ail flwyddyn i OBV gael ei enwebu am ei gynllun mentora ac mae’r prosiect hwn yn dilyn cynlluniau cysgodi Aelodau Seneddol, ynadon a Chynghorwyr llwyddiannus.                                       

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru : “Yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr i gynyddu cyfranogiad holl gymunedau Cymru trwy’n cymdeithas. Ar hyn o bryd un Aelod yn unig sydd gennym o’r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig yn cynrychioli yn y Cynulliad Cenedlaethol. Gobeithiwn y bydd llwyddiant y cynllun hwn yn arwain at fwy o Aelodau mewn llywodraeth leol a chenedlaethol a thrwy’r gwasanaethau cyhoeddus a rheolaeth busnes yng Nghymru, ac ‘rwy’n siwr y bydd Comisiwn y Cynulliad yn dymuno ail-adrodd y budd a ddeilliodd o’r cynllun cysgodi.”  

Dywedodd Simon Woolley, Cyfarwyddwr OBV: “Fel sefydliad sy’n ymgyrchu am gyfiawnder cymdeithasol a hiliol, nid yw ennill gwobrau yn flaenllaw yn ein gweithredoedd. Fodd bynnag, mae cael cydnabyddiaeth gan wobr wleidyddol fawreddog Cymdeithas Hansard Sianel 4 yn dweud yn glir wrthym bod pobl eraill yn cydnabod y gwaith arloesol a wnawn. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y cynllun yr ydym yn ei gynnal gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn newid y modd yr edrychir ar wleidyddiaeth yng Nghymru ac yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.”