Cynllunio gofalus a gwybodaeth mwy eglur yn allweddol i leihau allyriadau carbon yng Nghymru
30 Hydref 2010
Mae angen rhoi lle mwy blaenllaw i leihau allyriadau carbon ym mholisi Llywodraeth Cymru er mwyn gwarchod Cymru a’r blaned ar gyfer Cenedlaethau’r dyfodol, yn ôl adroddiad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Canfu ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd, er bod rhai adrannau’r llywodraeth ac asiantaethau yn neilltuo lle i agenda cynaliadwyedd roedd eraill yn rhoi blaenoriaeth llawer llai iddo.
Mewn rhai achosion gwelodd y Pwyllgor bolisïau a blaenoriaethau a oedd yn gwrthdaro oherwydd diffyg gweithio cydgysylltiedig. Dangosodd tystiolaeth bod polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru yn arwain at ddryswch a gwrthdaro i awdurdodau lleol pan oeddent yn ystyried agweddau ar leihau allyriadau carbon ceisiadau.
Mae’r adroddiad yn benllanw tair blynedd o waith a phum ymchwiliad blaenorol a oedd yn edrych ar wahanol agweddau ar leihau allyriadau carbon mewn ardaloedd datganoledig. Canolbwyntia’r adroddiad ar y cynnydd a wnaed gan y llywodraeth o ran argymhellion a gynhwyswyd yn y pum adroddiad hynny ac mae’n gwneud rhagor o argymhellion ar sail y materion sy’n gyffredin i’r holl adroddiadau.
Dywedodd Kirsty Williams AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd: “Rydym wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn yn awr i amlygu rhai o’r diffygion yn Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y llywodraeth ar gyfer Cymru.
“Er ein bod yn croesawu llawer o’r camau a nodir ynddi, credwn y gellir gwneud mwy gan y Llywodraeth gan ddefnyddio’i phwerau datganoledig yn hytrach na dibynnu ar Lywodraeth y DU i weithredu er mwyn cyflawni targed lleihad Cymru o 3%.
“Rydym hefyd yn pryderu am y diffyg gweithredu cydgysylltiedig rhwng adrannau’r llywodraeth ac asiantaethau, sy’n arwain at negeseuon cymysg a dryslyd ynghylch lleihau allyriadau carbon.
“Rydym am weld arweiniad mwy amlwg a neges gyson o ran ein hinsawdd ac rydym am i’r cyhoedd allu canfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gallu cyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy o un ffynhonnell.
“Mae hefyd ddiffyg gwybodaeth sy’n ein pryderu, o ran dangos pa effaith a gaiff polisïau’r llywodraeth ar leihau allyriadau carbon ac rydym am annog Llywodraeth Cymru i gasglu a chyhoeddi ystadegau clir a chywir sy’n dangos sut y mae Cymru’n cyfrannu tuag at gynnal ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae argymhellion y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cynnwys:
Dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun costio cyflawn, o ran faint o garbon a arbedwyd ac o ran goblygiadau ariannol y camau y mae’n bwriadu eu cymryd drwy ei Strategaeth Lleihau Carbon.
Bod Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi, ynghyd â’i Strategaeth Lleihau Carbon, restr gynhwysfawr o’r data sydd ar gael a’r data nad yw ar gael ac amserlen ar gyfer casglu a chyhoeddi data nad yw ar gael.
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gwir siop un stop i gael yr holl wybodaeth a chyngor angenrheidiol am leihau allyriadau carbon o bob sector. Dylai’r sefydliad newydd fod yn unig bwynt cyswllt ar gyfer gwneud ymholiadau a chael cyngor a chymorth ar hawl i grantiau a chysylltu â chontractwyr, a dylai gymryd rôl ragweithiol i hysbysu holl feysydd a sectorau Cymru i leihau allyriadau carbon.
Dylai pob Gweinidog o fewn Llywodraeth Cymru wneud yn glir eu rôl i leihau carbon a sut y bwriadant gyflawni’r targedau a bennwyd o fewn eu portffolio unigol.
Ymchwiliad i Leihau Allyriadau Carbon yng Nghymru