Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo Mesur arfaethedig ynghylch y diwydiant cig coch

Cyhoeddwyd 12/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo Mesur arfaethedig ynghylch y diwydiant cig coch

12 Mawrth 2010

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid Mesur arfaethedig a fydd yn ceisio gwella’r modd y mae’r diwydiant cig coch yn cael ei hyrwyddo yng Nghymru.

Bydd y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru) yn sicrhau bod yr arian a godir yn sgil ardollau ar gig coch, yn cael ei ail-fuddsoddi yn y diwydiant.

Cytunodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd.

Ar y pryd, dywedodd Dr Dai Lloyd AC Cadeirydd y Pwyllgor,: “Mae nifer o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cig coch ledled Cymru a dyna pam y mae’r Mesur hwn mor bwysig.”

“Dyma pam yr ydym yn cefnogi’r cam yma. Bydd yn ein galluogi i symleiddio’r broses o hyrwyddo’r diwydiant yng Nghymru i sicrhau bod ganddo ddyfodol hyfyw.”

Bydd y Mesur arfaethedig yn cael ei anfon at Gyfrin Gyngor y Frenhines ar gyfer Cymeradwyaeth Frenhinol.