Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru unwaith eto wedi cael ei enwi fel cyflogwr sy'n arwain y ffordd o ran creu gweithleoedd hyblyg ac ystyriol o deuluoedd yn y DU.
Cafodd ei gynnwys ymhlith y 30 cyflogwr gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio.
Mae cyflogwyr mawr a bach o lawer o sectorau'n cystadlu'n flynyddol i ennill lle ymhlith y Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio.
Mae'r rhestr yn cael ei llunio gan Working Families, yr elusen cydbwysedd bywyd a gwaith ac mae'n cynnwys cwmnïau a sefydliadau mawr a bach ledled y DU.
"Rwyf yn falch iawn bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei gydnabod ymysg cyflogwyr gorau'r DU i deuluoedd sy'n gweithio," yn ôl Manon Antoniazzi, Clerc a Phrif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Mae hyrwyddo amgylchedd sy'n ystyriol o deuluoedd yn ganolog i'r ffordd mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn mynd ati i gynrychioli pobl Cymru.
"Credwn yn gryf y bydd gweithle sy'n annog cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith yn datblygu staff brwdfrydig ac ymroddedig. Mae ein profiad yn sicr yn ategu'r gred honno."
Mae'r rhaglenni a'r polisïau sydd gan y Cynulliad i'w staff er mwyn bod yn ystyriol o deuluoedd yn cynnwys:
Patrymau gweithio hyblyg – tymor yn unig, rhan amser, oriau cywasgedig ac ati
Oriau hyblyg
Trefniadau gwell o ran cyfnod a thaliadau mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/absenoldeb rhiant a rennir
Aberthu Cyflog i gael Talebau Gofal Plant
Polisi Gofalwyr
Trefniadau Absenoldeb Arbennig
Rhwydwaith rhieni a gofalwyr yn y gweithle (Teulu)
"Credwn yn gryf y bydd gweithle sy'n annog cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith yn datblygu staff brwdfrydig ac ymroddedig."
- Manon Antoniazzi, Clerc a Phrif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Holly Pembridge, Cyd-gadeirydd Teulu, Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr y Cynulliad:
"Fel rhan o'r ymarfer meincnodi, rydym yn ateb cwestiynau manwl ac yn darparu tystiolaeth o ddefnydd ac effaith ein harferion gweithio hyblyg. Mae'r wobr yn adlewyrchiad gwych o'r ymrwymiad a ddangoswyd gan ein pobl ar bob lefel i gyflawni'r dyhead i fod yn gyflogwr enghreifftiol."
Mae cyflogwyr yn ateb cwestiynau manwl ac yn cael eu sgorio ar bedwar maes allweddol i greu darlun cynhwysfawr o'u hamgylchedd gweithio hyblyg ac ystyriol o deuluoedd.
Mae'r meysydd allweddol fel a ganlyn:
Integreiddio sy'n edrych ar ddiwylliant, agwedd a pha mor ddwfn y mae hyblygrwydd wedi ei wreiddio;
Polisi sy'n edrych ar greu, datblygu a defnyddio hyblygrwydd;
Ymarfer cyson sy'n ystyried pa mor dda y cefnogir hyblygrwydd; a
Mesur a chanlyniadau sy'n edrych ar effeithiau hyblygrwydd ar y sefydliad, a'i allu i ddeall yr effeithiau hynny.
Dywedodd Sarah Jackson OBE, Prif Weithredwr Working Families:
"Llongyfarchiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ei ymagwedd hyblyg wedi ennill lle amlwg iddo ar restr 2017 o'r 30 Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio.
"Mae'r meincnod blynyddol yn darparu darlun clir, nid yn unig o arfer cyfredol, ond hefyd y ffordd esblygol y mae sefydliadau'n meddwl am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gweithio'n hyblyg.
"Nid ar gyfer teuluoedd yn unig y mae hyblygrwydd yn dda, mae'n gwneud synnwyr busnes perffaith."