Cynulliad Cenedlaethol i gynnal Cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad

Cyhoeddwyd 06/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/04/2017

​​Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal Cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad, Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir (BIMR CWP) ar 6-7 Ebrill yng Nghaerdydd.

Bydd 25 o gynrychiolwyr yn cynrychioli pleidiau ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn mynychu o Gyprus, Gibraltar, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Malta, Gogledd Iwerddon, yr Alban a dau Dŷ'r Senedd yn Llundain.

Mae'r gynhadledd yn gyfle i rannu arfer gorau a phrofiad rhwng deddfwrfeydd gyda'r nod o weithio tuag at gynrychiolaeth well a mwy cynhwysol mewn bywyd cyhoeddus.

Y thema eleni yw 'Menywod yn yr Economi' a bydd cynrychiolwyr yn clywed cyfres o sgyrsiau ar faterion gan gynnwys:

  • Rôl llywodraeth wrth hyrwyddo menywod yn yr economi;
  • Amrywiaeth Menywod yn yr Economi; a
  • Gwyliwch y Bwlch:  Menywod mewn Adeiladu.

Bydd cyflwyniadau hefyd gan Cerys Furlong a Natasha Davies o Chwarae Teg, Christine Atkinson, Pennaeth Canolfan Entrepreneuriaeth Menywod ym Mhrifysgol De Cymru, Sophie a Hannah Pycroft o Spectrum Collections, a Jo Roberts, perchennog Fabulous Welshcakes.

Dywedodd Cadeirydd BIMR CWP, Joyce Watson AC:

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein gwesteion o Seneddwragedd y Gymanwlad i'r Cynulliad Cenedlaethol eleni.

Mae'r gynhadledd yn gyfle amserol i drafod sut y gall menywod chwarae rhan lawn a chyfartal yn economïau unigol eu cenhedloedd ac yn yr economi ar y cyd, yn awr ac yn y dyfodol, a sut y gall llunwyr polisi gefnogi menywod i gyrraedd eu potensial ac i ffynnu.

"Ledled rhanbarth Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir, rydym yn gwneud cynnydd – ond mae cydraddoldeb yn parhau i fod yn anghyson. Mae menywod yn fwy tebygol o weithio mewn rolau rhan amser ar gyflog isel ac maent yn nodedig yn absennol o sectorau penodol fel peirianneg a gweithgynhyrchu, a swyddi arweinyddiaeth yn gyffredinol ar draws y farchnad lafur.

"Ar yr un pryd, mae rolau sy'n cael eu pennu yn ôl canfyddiadau traddodiadol o rywedd – menywod yn 'brif ofalwyr' ac ati – yn parhau i gael dylanwad ac i amharu ar benderfyniadau proffesiynol, cyfleoedd a chynnydd menywod.

"Mae cost ariannol y dangynrychiolaeth hon yn enfawr (canfu adroddiad diweddar y gallai cau'r bwlch rhwng dynion a menywod ychwanegu £150 biliwn at economi'r DU erbyn 2025), ac mae'n cael effaith gysylltiedig ar gymdeithas.    

"Felly, wrth i ni ddod at ein gilydd yng Nghaerdydd, y nod yw cydweithio, herio ac ysbrydoli newid – i nodi'r rhwystrau sy'n atal menywod rhag cyrraedd eu potensial, nodi bylchau posibl mewn polisi a strategaeth a rhannu arfer gorau."