Cynulliad Cenedlaethol yn cofnodi’r Cofio mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol

Cyhoeddwyd 06/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol yn cofnodi’r Cofio mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol

Nomansland

Daw’r Senedd yn ganolbwynt y Cofio yng Nghymru dros y dyddiau nesaf wrth i’r cerflunydd arobryn o Gymru, Andrew Cooper osod ei ddarn diweddaraf, Nomansland. Gyda chefnogaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol a Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y gosodiad ar agor i’r cyhoedd o Ddydd Sadwrn 8 Tachwedd tan Ddydd Mawrth 11 Tachwedd.

Daw cyfnod y gosodiad i ben ar Ddydd Mawrth 11 Tachwedd gyda chanu cloch y Cynulliad Cenedlaethol i gychwyn y Ddau Funud o Dawelwch traddodiadol am 11:00 a.m. gydag Aelodau’r Cynulliad yn ymgynnull yn ardal yr Oriel.

Wrth gyfeirio at weithgarwch y Cofio, dywedodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC:

“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn croesawu’r cyfle i gofnodi’r Cofio trwy greu’r gofod defodol hwn ar gyfer myfyrdod a chofio personol. Mae croeso hefyd i aelodau’r cyhoedd ymuno â ni i gofnodi ein Dau Funud o Dawelwch ar yr unfed awr ar ddeg, ar unfed diwrnod ar ddeg yr unfed mis ar ddeg”.

‘Nomansland’

Mae gosodiad Nomansland gan Andrew Cooper yn archwilio’r Cadoediad a digwyddiadau’r Cofio trwy gae o goch; gyda blodau pabi yn crogi o ddagrau o waed, wedi’u hadlewyrchu’n ddiddiwedd mewn drychau. Ar goll mewn môr o goch, caiff y sawl sy’n cymryd rhan eu hunain mewn gofod i fyfyrio, i ymateb yn gorfforol ac i gofio.

Bu’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gweithio’n agos â Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau y gall y cyhoedd wylio a phrofi’r gofeb unigryw hon i’r sawl a gollodd eu bywydau mewn gwrthdrawiadau ddoe a heddiw.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Er mwyn bod yn bresennol ar y dydd neu i gynnal cyfweliad gyda’r artist, cysylltwch â Dave Hoare ar 029 2046 531 neu  dave.hoare@wa.grayling.com

  • Dydd Sadwrn, 8 Tachwedd – Dydd Mawrth, 11 Tachwedd – Gosodiad yn agored i’r cyhoedd. Mae oriau agor y Senedd fel a ganlyn:

    • Dydd Sadwrn – Dydd Sul, 8 – 9 Tachwedd - 10:30 – 16:30 o’r gloch

    • Dydd Llun, 10 Tachwedd  - 08:00 – 16:30 o’r gloch

    • Dydd Mawrth, 11 Tachwedd – 08:00 – 20:00 o’r gloch

  • Dydd Mawrth, 11 Tachwedd - Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn gwneud araith fer cyn i gloch y Cynulliad Cenedlaethol gael ei chanu i ddechrau’r Ddau Funud o Dawelwch.

  • O’r tu allan mae’r gosodiad yn edrych yn debyg i gawell pren mawr - 8tr (lled) x 12tr (hyd) x 8tr (uchder). Wrth i wylwyr fynd i mewn i’r cawell mae rhith optegol a greëir trwy ddefnyddio drychau yn creu’r argraff fod y gwyliwr wedi’i amgylchynu gan gae diddiwedd o flodau pabi. Disgrifiwyd rhith optegol y blodau pabi yn ‘dirlun llawn emosiwn’ sy’n rhoi amser i’r gwyliwr fyfyrio a chofio mewn gofod tawel.