Cynulliad Cenedlaethol yn ennill gwobr am fod yn sefydliad sy’n ystyriol o bobl fyddar

Cyhoeddwyd 27/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/05/2016

​Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i ennill gwobrau fel sefydliad sy’n ystyriol o bobl fyddar ac enillodd wobr Rhagoriaeth Cymru gan Action on Hearing Loss Cymru eto eleni.

Llwyddodd y Cynulliad i sicrhau achrediad Yn Uwch na Geiriau gan AHL yn 2013, gan gadw’r achrediad yn 2014 a 2015. Yn 2015, enillodd y Cynulliad hefyd wobr arian Rhagoriaeth Cymru gan Hearing Loss Cymru.

Caiff y gwobrau eu dyfarnu i gydnabod bd sefydliadau’n llwyddo i ddarparu gwasanaethau sy'n ystyriol o’r bobl fyddar, gan gofio bod 536,000 o bobl yng Nghymru yn fyddar neu'n drwm eu clyw.

"Rwy’n falch o ymrwymiad y Cynulliad i sicrhau bod y sefydliad yn hygyrch i bawb," meddai Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad.

"O'r fideos Iaith Arwyddion Prydain a’r teithiau o amgylch y Senedd i hyfforddiant ar-lein gorfodol i'r holl staff, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw."

"Hoffwn hefyd ddiolch i Dîm Cydraddoldeb y Cynulliad am sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau rhagorol sy'n cael eu cydnabod gan bartneriaid allanol."

Meddai Richard Williams, cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru:

“Roedd yn dasg anodd i’r panel beirniaid ddewis yr enillwyr o blith rhestr fer ragorol, ond rwy’n credu eu bod wedi gwneud gwaith penigamp. Mae pob un o’n henillwyr yn dangos y gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth i fywydau pobl â nam ar eu clyw o ddydd i ddydd.

“Gobeithio y bydd sefydliadau ledled Cymru yn cael eu hysbrydoli gan ein henillwyr ac yn dechrau meddwl am newidiadau y gallant eu gwneud i sicrhau bod eu gwasanaethau ar gael yn rhwydd i’r un o bob chwech o bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.”

Ymhlith y dystiolaeth a ddangosodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ennill y wobr roedd y canlynol:

  • mae ein holl staff yn cael hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol;
  • mae llawer o staff, gan gynnwys pob un sy'n ymdrin â'r cyhoedd yn uniongyrchol, wedi cael hyfforddiant Hyder gydag Anabledd
  • mae systemau dolen sain ar gael drwy’r ystâd;
  • mae Iaith Arwyddion Prydain ac is-deitlau ar gael ar gyfer Cwestiynau'r Prif Weinidog ar Senedd.tv;
  • mae fideo Iaith Arwyddion Prydain ar gael fel rhan o'n cynllun cyfathrebu ar gyfer ein hymgynghoriad ynghylch y cynllun cydraddoldeb;
  • cynhelir teithiau Iaith Arwyddion Prydain o amgylch ein hadeilad yn ystod Diwrnod Mynediad i'r Anabl. Rydym hefyd wedi creu fideo Iaith Arwyddion Prydain i annog defnyddwyr yr iaith deithio o amgylch y Cynulliad;
  • rydym wedi rhoi cyflwyniadau i annog ymgysylltiad democrataidd ac wedi defnyddio fideos Iaith Arwyddion Prydain a chymorth i gyfathrebu pan fo angen.