Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru yn cyfarfod yn y Drenewydd

Cyhoeddwyd 15/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/07/2019

Mewn digwyddiad pwysig iawn, bydd Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru yn cyfarfod rhwng 19 a 21 Gorffennaf 2019. Mae'r prosiect yn nodi ffurf newydd o gymryd rhan mewn democratiaeth ac yn rhan allweddol o raglen y Cynulliad Cenedlaethol i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli.

Mae'r 60 o ddinasyddion sy'n cymryd rhan yn cynrychioli poblogaeth Cymru 16 oed a hŷn. Fe'u dewiswyd ar ôl dethol 10,000 o aelwydydd ar hap a'u gwahodd i wneud cais. Byddant yn ymgynnull yn Neuadd Gregynog yn y Drenewydd i drafod 'sut y gall pobl yng Nghymru lywio eu dyfodol?'.

Bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn clywed tystiolaeth arbenigol ac yn trafod enghreifftiau o sut mae pobl mewn gwledydd eraill yn cael dweud eu dweud yn y broses ddemocrataidd. Yna byddant yn ystyried ac yn awgrymu ffyrdd newydd y gallai dinasyddion wneud hyn drwy waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gwneud cyfres o argymhellion.

Pam cael Cynulliad Dinasyddion?

 

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd wrth wraidd y ffordd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio. Nod y Cynulliad yw cynnwys pobl ledled Cymru ym mhopeth y mae'n ei wneud ac mae'n chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â rhagor o aelodau'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i'r cyhoedd ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i gyfrif, cyfrannu at ymchwiliadau pwyllgorau a chyflwyno deisebau cyhoeddus.

Bydd yr argymhellion a wneir gan y Cynulliad Dinasyddion yn helpu i lywio gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau bod y ffyrdd y mae'n ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru yn addas ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Mae Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru yn ddigwyddiad pwysig iawn ac yn gam tyngedfennol ar ein taith ddatganoli.

"Mae ymgysylltu â'r cyhoedd wrth wraidd gwaith y Cynulliad Cenedlaethol. Rydym ni am i bobl ym mhob rhan o Gymru gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy rannu eu barn a'u syniadau gyda ni.

"Er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu a gwella, mae'n rhaid i bawb gymryd rhan. Mae'r Cynulliad Dinasyddion yn ffordd arloesol y gallwn ni sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd â blaenoriaethau pobl ledled y wlad.

"Rwy'n ddiolchgar i'r rheini sy'n cymryd rhan am roi o'u hamser ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu barn."

Cynulliadau dinasyddion llwyddiannus ledled y byd

 

Mae Cynulliadau Dinasyddion y Byd yn ffordd gymharol newydd o gynnwys y cyhoedd yn y broses o wneud penderfyniadau democrataidd – dyma'r tro cyntaf i un gael ei sefydlu yng Nghymru.

Fe'u defnyddiwyd yn llwyddiannus fel modelau ymarferol i annog cyfranogiad mewn gwledydd eraill, fel Canada, Awstralia, yr Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl, ac maent wedi helpu i fynd i'r afael â rhai materion pwysig.

Edrychodd y Cynulliad Dinasyddion diweddar yn Iwerddon ar faterion yn cynnwys erthyliad, hawliau cyfartal i briodi a'r cyfleoedd a'r heriau yn sgil  poblogaeth sy'n heneiddio.

 


"Mae Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru yn ddigwyddiad pwysig iawn ac yn gam tyngedfennol ar ein taith ddatganoli."

- Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Cynulliad Dinasyddion cynrychiadol

 

Er mwyn sicrhau bod y Cynulliad Dinasyddion yn cynrychioli pobl Cymru gystal â phosibl, mae'r trefnwyr wedi ymdrechu i ddewis pobl sy'n adlewyrchu cyfansoddiad y cyhoedd yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys oedran, lefel addysgol, ethnigrwydd, rhyw, lleoliad rhanbarthol, sgiliau Cymraeg, pobl a bleidleisiodd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 a phobl na wnaethant bleidleisio.

Cefnogaeth arbenigwyr

 

Bydd siaradwyr arbenigol yn cyflwyno tystiolaeth ac astudiaethau achos am ddinasyddion sy'n cymryd rhan mewn prosesau democrataidd a bydd y rhai sy'n cymryd rhan hefyd yn clywed sut mae pobl yn ymgysylltu â gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Bydd cyfle i'r cyfranogwyr holi'r siaradwyr a thrafod y dystiolaeth maen nhw'n ei chlywed gyda'i gilydd.

Yna, bydd cyfranogwyr yn gweithio drwy gyfres o ymarferion, yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bach, yn ogystal â graddio opsiynau a rhywfaint o bleidleisio, er mwyn dod i set o gasgliadau.

Mae'r siaradwyr yn cynnwys yr Athro Graham Smith, Athro Gwleidyddiaeth a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Democratiaeth ym Mhrifysgol Westminster, a Dr Huw Pritchard, darlithydd ym maes y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Er mwyn sicrhau annibyniaeth, gwahoddodd y Cynulliad bartneriaid arbenigol allanol i drefnu'r broses o ddewis cyfranogwyr yn ogystal â chyflawni'r prosiect. Bydd hwyluswyr proffesiynol yn arwain y trafodaethau a'u rôl fydd sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn cael eu clywed ac yn teimlo'n gyfforddus.

Bydd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi casgliadau'r cynulliad dinasyddion mewn adroddiad a bydd yn defnyddio'r casgliadau i lywio ei waith. Bydd y Comisiwn yn ymateb ar ôl ystyried yr adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ym mis Medi.