Cynulliad newydd â phwerau deddfu ehangach yn ethol pedwar Comisiynydd

Cyhoeddwyd 25/05/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad newydd â phwerau deddfu ehangach yn ethol pedwar Comisiynydd

25 Mai 2011

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penodi pedwar Comisiynydd newydd, un o bob un o’r pedwar grŵp gwleidyddol.

Byddant yn cwrdd am y tro cyntaf yn ddiweddarach y mis hwn, a byddant yn gyfrifol am osod nodau a chyfeiriad strategol Comisiwn y Cynulliad dros y pum mlynedd nesaf.

Mae rôl y Comisiynwyr yn fwy arwyddocaol o ganlyniad i’r bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ym mis Mawrth ar roi pwerau deddfu ehangach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae hwn yn Gynulliad newydd, gyda mwy o Aelodau newydd nag erioed o’r blaen, a mwy o allu i ddeddfu,” meddai’r Llywydd, Rosemary Butler AC.

“Bydd gwaith y Comisiynwr, felly, hyd yn oed yn fwy arwyddocaol dros y pum mlynedd nesaf.

“Mae gennym waith i'w wneud i sicrhau bod gan bob Aelod y cyfleusterau a’r gefnogaeth gywir—nid yn unig i ddeddfu o dan y pwerau newydd, ond i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif."

Y pedwar Comisiynydd yw Sandy Mewies AC o Lafur Cymru, Angela Burns AC o’r Ceidwadwyr Cymreig, Rhodri Glyn Thomas AC o Blaid Cymru, a’r Democrat Rhyddfrydol Peter Black AC.

Caiff y Comisiwn ei arwain gan y Llywydd, Rosemary Butler AC, ac oherwydd ei fod yn gweithredu’n barhaus—yn wahanol i’r Cynulliad ei hun - gall gynllunio ar gyfer datblygiad y Cynulliad fel sefydliad yn y tymor hir. Ei brif swyddogaethau yw:

  • caffael, cynnal neu waredu unrhyw eiddo ar ran y Cynulliad;gwneud trefniadau i dalu’r Aelodau, i ddarparu eu pensiynau a’u lwfansau, ac i gyflogi staff y Cynulliad, a

  • gweithredu mewn modd priodol ac angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaethau sy’n ofynnol i’r Cynulliad wneud ei waith.

Mae gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldebau pellach i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd am y llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn ogystal ag am systemau etholiadol presennol ac yn y dyfodol.