Cynulliad yn derbyn neges Dewi Sant

Cyhoeddwyd 01/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad yn derbyn neges Dewi Sant

1 Mawrth 2011

Ar Ddydd Gwyl Dewi, ers pum mlynedd, mae neges Dewi Sant at y Senedd yng Nghaerdydd wedi ei chario gan ddau berson ifanc o Sir Benfro, yr holl ffordd o Gadeirlan Tyddewi i’r Senedd ym Mae Caerdydd. Dros y tair blynedd diwethaf mae’r negeseuwyr ifanc wedi dod o Gadetiaid Môr Abergwaun.

Ar fore Dydd Gwyl Dewi, mae neges Dewi Sant ar ffurf llythyr yn dechrau’r daith o Gadeirlan Tyddewi. Mae’r siwrne yn mynd ymlaen i Ganolfan Hywel Dda yn yr Hendy Gwyn, Neuadd y Dref yng Nghaerfyrddin a Neuadd Brangwyn, Abertawe, ac ychwanegir cyfarchion ym mhob lleoliad i restr y llythyrau i’w cludo i Gaerdydd.

Daw diwedd y siwrne am bump o’r gloch, pan gyrhaedda’r negeseuwyr adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Yma, maent yn cael eu croesawu gan William Graham AC, Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad. Bydd y negeseuwyr ifanc yn cyflwyno’r llythyrau a’r cyfarchion iddo, ac mae’r rhain wedyn yn cael eu rhoi gyda’r rheiny o flynyddoedd cynt mewn arddangosfa barhaol yn y Pierhead, lle gall y cyhoedd eu gweld.