Cynulliad yn rhoi cyfle i longyfarch y cwpl Brenhinol
Bydd llyfr ar gael yn y Senedd i aelodau’r cyhoedd i adael negeseuon ynddo yn llongyfarch Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William a Miss Catherine Middleton ar eu priodas ar 29 Ebrill 2011.
Bydd y llyfr ar gael yn y brif dderbynfa yn y Senedd o 18 Ebrill tan 6 Mai.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad: “Gan fod y Tywysog William a Catherine Middleton yn byw ar Ynys Môn, ac y byddant yn mwynhau eu bywyd priodasol cynnar gyda’i gilydd yno, mae’n briodol bod pobl Cymru yn cael y cyfle hwn i ddymuno’n dda i’r ddau’n bersonol.”
Bydd llyfrau negeseuon eraill ar gael i bobl eu llofnodi yn:
swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd
swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno
swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ffordd Parc-y-Llyn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth
swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful
Cesglir y llyfrau ynghyd i greu cyfrol briodol i’w chyflwyno i’r cwpl Brenhinol ar ôl eu priodas.