Darlith Goffa Flynyddol Rhodri Morgan

Cyhoeddwyd 20/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2018

Dyddiad: 25 Medi 2018
Amser: 18.00 – 20.00
Lleoliad: Y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Darlith Flynyddol Gyntaf er cof am Rhodri Morgan yn cael ei chyhoeddi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac Academi Morgan Prifysgol Abertawe.

Traddodir y ddarlith flynyddol gyntaf er cof am Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yn y Senedd ddydd Mawrth, 25 Medi.

Bydd Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, yn cymharu’r cynnydd a wnaed o ran sicrhau hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghymru a’r Alban ers datganoli, gan ganolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd ac hefyd beth sy’n weddill i’w wneud.

Bydd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, yn ymateb i Mr Adamson wrth gynnig pleidlais o ddiolch iddo. Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan yr Athro Mike Sullivan, Cyfarwyddwr Academi Morgan a chyn-Gynghorwr Arbennig i Rhodri Morgan. Mae’r Athro Sullivan yn ysgrifennu cofiant gwleidyddol am Rhodri.

Dywedodd yr Athro Sullivan:

“Wrth sefydlu ein partneriaeth, gan gynnwys y gyfres hon o ddarlithoedd, penderfynodd Academi Morgan a’r Brifysgol y byddai’r darlithoedd yn canolbwyntio ar unrhyw fater a oedd o ddiddordeb arbennig i Rhodri.

Am fod ei ddiddordebau mor eang, yn wleidyddol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac ym maes chwaraeon, mae hen ddigon o ddeunydd gennym!

“O ystyried ei ymrwymiad angerddol i hawliau dynol plant a phobl ifanc, ac o ystyried y cynnydd a wnaed yng Nghymru yn y maes hwn o dan ei arweinyddiaeth, gan gynnwys sefydlu swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mae’n briodol mai hawliau plant fydd testun darlith goffa gyntaf Rhodri Morgan.

“Daw Bruce Adamson â safbwynt rhyngwladol diddorol i’r hyn a gyflawnwyd, ac i’r heriau sy’n ein hwynebu o hyd.”

Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

‘Rydym yn falch o gael cynnal y ddarlith goffa gyntaf yma yn y Senedd.

Heb amheuaeth, bydd hanes yn cofio Rhodri fel un o’r mawrion ym mlynyddoedd cynnar datganoli ac mae’n hollol briodol bod y ddau sefydliad hyn, ein Cynulliad Cenedlaethol a Phrifysgol Abertawe, yn cydweithio fel hyn er cof amdano, gan eu bod ill dau yn golygu cymaint iddo.

“Arbennig o addas yw’r ffaith y bydd y ddarlith gyntaf yn canolbwyntio ar hawliau dynol plant a phobl ifanc yn yr un flwyddyn ag y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed yr heriau a fydd gan Gomisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban i ni wrth inni weithio gyda’n gilydd i wireddu hawliau plant.”

Meddai Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban:

“Braint o’r mwyaf yw cael fy ngwahodd i draddodi’r ddarlith gyntaf hon i goffáu Rhodri Morgan.

“Mae cynnydd tuag at gyflawni agenda hawliau plant yn dibynnu bob amser ar hyrwyddwyr yn y byd gwleidyddol, ac heb amheuaeth roedd Rhodri Morgan yn hyrwyddwr rhagorol.

“Gwnaethpwyd llawer yng Nghymru a’r Alban ers datganoli i ymgorffori dulliau a diwylliant sy’n seiliedig ar hawliau, ond mae llawer i’w wneud o hyd.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu i’r ddadl ynghylch yr hyn sydd angen digwydd nesaf.”

Mae presenoldeb yn y ddarlith drwy wahoddiad yn unig. Fodd bynnag, mae croeso i’r cyhoedd wneud cais i gael eu rhoi ar restr wrth gefn os bydd tocynnau ar gael. Ceisiadau trwy’r e-bost at Julie.Broomhead@swansea.ac.uk.