Datganiad ar Ganlyniadau Arolwg Urddas a Pharch 2019

Cyhoeddwyd 03/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/07/2019

Fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, Arweinwyr y Pleidiau a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rydym wedi cael copi o'r adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr Ymgysylltu y Cynulliad ar arolwg urddas a pharch 2019.  

Gwahoddwyd Aelodau'r Cynulliad, eu staff a staff Comisiwn y Cynulliad i gymryd rhan yn yr arolwg ac rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd ei farn a’n galluogodd i ganolbwyntio ar y meysydd y mae angen eu gwella ymhellach.  Eleni, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl a gymerodd ran yn yr arolwg, sef 177.  Er bod y sampl yn parhau'n fach, rydym yn gwerthfawrogi'r safbwyntiau a fynegwyd a byddant yn cyfrannu at ein gwaith parhaus ar urddas a pharch.

Ers mis Hydref 2018, mae gwaith wedi cael ei wneud i gryfhau a gwella ein polisïau, ein canllawiau, a’n cefnogaeth ac i brofi hygyrchedd ein gweithdrefnau. Roeddem yn falch o nodi canfyddiadau'r adroddiad, sef bod dros 80 y cant o'r cyfranogwyr yn gwybod sut i gael gafael ar wybodaeth am sut i adrodd am ymddygiad amhriodol ac o ble i gael cyngor os oeddent yn ansicr. Mae hyn yn welliant ers y llynedd, yn enwedig drwy ein hyfforddiant cynefino a gloywi. 

Yn dilyn ymgynghoriad manwl, cafodd ein polisi Urddas a Pharch ei gymeradwyo gan y Cynulliad ym mis Mai 2018. Fel prif sefydliad democrataidd Cymru, mae gennym bellach gyfrifoldeb i weithredu yn unol â'r safonau uchel a nodir ac i arwain drwy esiampl. 

Er bod yr adroddiad yn dweud wrthym fod gostyngiad yn nifer y bobl sydd wedi bod yn destun rhyw fath o ymddygiad amhriodol dros y 12 mis diwethaf, mae'r ffigurau'n parhau i beri pryder ac nid ydynt yn gydnaws â'r amgylchedd cynhwysol lle nad oes aflonyddu a nodwyd gennym mewn datganiadau blaenorol. 

Buddsoddwyd amser ac ymdrech i wella ein prosesau ac i weithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad “Creu'r Diwylliant Cywir”. Cyflwynwyd rhaglen o hyfforddiant ymwybyddiaeth i bob plaid wleidyddol a staff y Comisiwn, gyda'r nod o wreiddio diwylliant mwy cynhwysol a mynd i'r afael â'r materion a ddaeth i'r amlwg.  Mae systemau wedi gwella a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth yn y dyfodol.  Fodd bynnag, mae adborth o'r arolwg yn awgrymu bod ymddygiadau personol a sut rydym yn ymddwyn o ddydd i ddydd yn bethau y mae angen inni fynd i'r afael â hwy o hyd. 

Dywedodd mwyafrif y cyfranogwyr, dros 80 y cant, nad oeddent wedi bod yn destun unrhyw fath o ymddygiad amhriodol. Felly, carfan fach o unigolion sy'n gyfrifol am y materion a nodwyd yn yr arolwg. Fodd bynnag, mae gweithredoedd y garfan fach honno yn ein pardduo ni i gyd ac yn pardduo enw da'r Cynulliad. Yn unigol, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gyflwyno'r newidiadau diwylliannol yr ydym yn ceisio'u cyflawni - naill ai trwy herio unigolion yn briodol neu drwy reoli ein hymddygiad personol ein hunain yn fwy effeithiol. 

Yn gadarnhaol, mae'r adroddiad yn dangos bod tystiolaeth o bobl yn beirniadu neu'n herio mathau o ymddygiad amhriodol ac rydym yn falch o weld bod unigolion yn gwneud hynny. Gwyddom y gall herio iaith, tôn llais neu faterion amhriodol eraill sy'n effeithio ar urddas unigolyn yn aml fod yn ffordd effeithiol o roi terfyn arno neu dynnu sylw at effaith sylwadau diofal neu ymddygiad amhriodol ar rywun. 

Cynhelir ymgyrch newydd drwy gydol yr haf ac ar ddechrau tymor yr hydref i roi gwarant na fyddwn yn cadw'n dawel pan fyddwn yn dyst i unrhyw fath o ymddygiad amhriodol. Rhaid ei herio. Rhaid i bob un ohonom, ar draws y sefydliad, gymryd cyfrifoldeb personol am ein hymddygiad fel ei fod yn gyson â'r polisi Urddas a Pharch. Rhaid i ni hefyd gefnogi unigolion, gan eu grymuso i adrodd am eu profiad er mwyn gallu datrys eu cwynion neu eu pryderon.  

Fel gwleidyddion, rydym yn aml yn siarad am ddatblygu gwleidyddiaeth fwy caredig. Nid yw hyn yn cyfyngu ei hun i'r ffordd rydym yn siarad â'n gilydd yn y Siambr neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n golygu gwneud hyn drwy'r amser, yn y Senedd ac o'i chwmpas, yn Nhŷ Hywel, mewn swyddfeydd etholaethol neu ble bynnag y mae ein gwaith yn mynd â ni. Ac nid yw'n golygu gwleidyddion yn unig. Mae angen i bob rheolwr staff ystyried sut y gall ymddygiad sy'n effeithio ar urddas unigolyn ei ddadrymuso. 

Fel arweinwyr y sefydliad, rydym yn unedig yn ein barn ac mae angen i ni gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r mater hwn. I'r perwyl hwn, ac o ystyried yr adborth a gafwyd o'r arolwg, bydd yr ymgyrch Hawl i Herio yn cynnwys addewid sy’n ein hymrwymo i beidio â chadw'n dawel pan fyddwn yn gweld ymddygiad neu'n clywed iaith sy'n effeithio ar urddas rhywun arall. Bydd rhan o'r ymgyrch hefyd yn rhoi atebion a dulliau ymarferol i helpu unigolion i herio effaith ymddygiad o'r fath arnynt yn bersonol. Rydym yn rhoi ein cefnogaeth lawn i'r ymgyrch hon ac yn disgwyl i bawb sydd ag unrhyw gyfrifoldeb rheoli neu arwain gymryd y mater hwn o ddifrif. 

Elin Jones, y Llywydd
Mark Drakeford, Arweinydd Grŵp Llafur Cymru
Paul Davies, Arweinydd grŵp Ceidwadol Cymru
Adam Price, Arweinydd grŵp Plaid Cymru
Mark Reckless, Arweinydd y grŵp Brexit
Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

   


 

Arolwg Urddas a Pharch: Adroddiad ar y canlyniadau 2019 (PDF, 8 MB)