Datganiad Coronafeirws gan Gomisiwn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2020

“Mae Comisiwn y Cynulliad yn monitro sefyllfa Coronafeirws yng Nghymru yn agos. Heddiw (dydd Llun, Mawrth 16) fe wnaeth y Comisiwn gytuno ar gyfres o gamau mewn ymateb i’r sefyllfa. 

“Mae'r Comisiwn wedi penderfynu y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn atal ei holl weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd rhwng dydd Mawrth 17 Mawrth a 26 Ebrill ar y cynharaf.

“Mae hyn yn cynnwys teithiau tywys, ymweliadau addysgol ac unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn adeiladau'r Senedd a Pierhead ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd. Bydd y ddau adeilad ar gau i'r cyhoedd ac eithrio'r rhai sy'n mynychu neu am wylio cyfarfodydd ffurfiol y Cynulliad yn y Senedd a Phwyllgorau'r Cynulliad. Bydd rhaglen reolaidd y Cynulliad o weithgaredd allanol gan gynnwys ymweliadau staff ag ysgolion ledled Cymru ac ymgysylltu cymunedol gan Bwyllgorau'r Cynulliad hefyd yn dod i ben am y tro. Penderfynodd y Comisiwn hefyd ohirio wythnos fusnes y Senedd yn y gogledd ddwyrain yn ddiweddarach yr haf hwn.

“Bydd Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn cyfarfod fore Mawrth i gadarnhau busnes y Cynulliad am y pythefnos nesaf cyn toriad y Pasg. Mae’r Pwyllgor Busnes yr wythnos hon yn cynnwys sesiwn arbennig o’r Pwyllgor Iechyd gyda’r Gweinidog Iechyd a’r Prif Swyddog Meddygol. Disgwylir y bydd angen craffu llawn gan y Cynulliad ar ddeddfwriaeth argyfwng sy'n ymwneud â COVID-19 yr wythnos ganlynol.

“Trafododd y Comisiynwyr hefyd yr angen i gefnogi staff sy’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan yr achosion o COVID-19 a'r angen i barhau i ddarparu arweiniad perthnasol i Aelodau'r Cynulliad yn ymwneud â'u staff a'u swyddfeydd eu hunain.

“Bydd yr holl benderfyniadau a gweithrediadau’r Cynulliad yn cael eu hadolygu yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.“